Beth mae trawsgludwr yn ei wneud?
Yn y canllaw hwn
Beth yw trawsgludwr?
Gweithiwr proffesiynol yw trawsgludwr sy'n gofalu am yr holl waith papur cyfreithiol sy'n ymwneud â throsglwyddo eiddo o un person i berson arall. Efallai y cyfeirir ato hefyd fel eich cyfreithiwr.
Mae gan fenthycwyr restrau o drawsgludwyr y maent yn hapus gweithio gyda nhw; bydd eich brocer neu fenthyciwr yn dweud wrthoch a yw eich trawsgludwr ar y rhestr neu beidio. Mae'r rhan fwyaf ohonynt ar y rhestr.
Beth mae trawsgludwyr yn ei wneud?
Bydd eich trawsgludwr yn archwilio'r holl agweddau ar eich eiddo cyn i chi ymrwymo i'w brynu. Bydd hefyd yn helpu i ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y broses..
Dylech gadw mewn cysylltiad â'ch trawsgludwr i sicrhau bod y gwaith hwn yn symud yn ei flaen cyn gynted â phosibl.
Bydd eich trawsgludwr yn cyflawni'r chwiliadau a'r gwiriadau cyfreithiol sy'n digwydd wrth werthu eiddo. Mae'r chwiliadau a'r gwiriadau hyn yn bwysig. Maent yn eich helpu i ddeall yr holl wybodaeth y mae angen i chi wybod am eiddo cyn i chi ymrwymo i'w brynu.
Beth yw'r chwiliadau?
Bydd eich cyfreithiwr neu drawsgludwr yn cyflawni amryw chwiliadau i wirio pethau fel:
- a yw'r eiddo wedi'i gysylltu â charthffosydd
- pwy sy'n berchen ar unrhyw ffyrdd mynediad
- a yw'r tir y mae wedi'i adeiladu arno yn halogedig
- unrhyw beth y mae angen i chi ei wybod am yr ardal leol, fel cynlluniau ffyrdd newydd neu gamau gorfodi y mae'r cyngor lleol yn eu cymryd
Beth yw cofrestru tir ac eiddo?
Pan ddaw'r gwerthiant i ben, bydd eich cyfreithiwr neu drawsgludwr yn cofrestru eich manylion â'r Gofrestrfa Tir. Mae hyn yn cofrestru eich perchenogaeth o'r tŷ.
Mae Cofrestrfa Tir EF yng Nghymru a Lloegr, Cofrestrau'r Alban yn yr Alban, a Gwasanaethau Tir ac Eiddo yng Ngogledd Iwerddon sy'n delio â thir ac eiddo.
Faint mae trawsgludwyr yn ei gostio?
Mae costau'r chwiliadau a'r cofrestru yn sefydlog. Bydd ffioedd cyfreithiol am amser ac ymdrech eich trawsgludwr yn amrywio. Bydd gan y rhan fwyaf o drawsgludwyr bris sefydlog sy'n dibynnu ar werth yr eiddo.
- Getting a mortgage
Y camau nesaf
Cymharwch ein cynhyrchion morgais neu cysylltwch â'n harbenigwyr morgeisi.