A oes angen arolwg arnaf?
Yn y canllaw hwn
A oes angen arolwg arnaf?
Nid yw cynnal arolwg yn orfodol ond gall helpu rhoi tawelwch meddwl i chi o ran eich buddsoddiad.
Gall arolygon amrywio o ran cwmpas a chost. Bydd faint rydych yn ei dalu yn dibynnu ar faint, lleoliad, a gwerth eich cartref. Bydd angen i chi bwyso a mesur eich opsiynau i gyd i benderfynu beth sydd orau i chi.
Beth yw arolwg?
Arolwg yw adroddiad a all rhoi gwybodaeth ychwanegol i chi am y cartref yr hoffech ei brynu. Mae syrfëwr proffesiynol yn gwneud hyn.
Gall roi tawelwch meddwl i chi nad oes unrhyw broblemau mawr gyda'r cartref yr hoffech ei brynu.
Os bydd unrhyw broblem, gallwch benderfynu beth i'w wneud nesaf. Os bydd yr arolwg yn dod o hyd i unrhyw broblem fydd yn ddrud i'w datrys, gallwch bob amser fynd yn ôl ac aildrafod eich cynnig.
Neu gallech ddewis tynnu eich cynnig yn ôl yn gyfan gwbl os yw'r risg yn rhy fawr. Cofiwch i fod yn ymwybodol o'r costau rydych eisoes wedi ymrwymo iddynt a sut y bydd hynny'n effeithio ar eich sefyllfa ariannol.
Arolwg a phrisiad: beth yw'r gwahaniaeth?
Bydd eich benthyciwr yn gwneud ei brisiad ei hun. Mae'n gwneud hyn i sicrhau bod yr eiddo y mae'n rhoi benthyg arian i chi ar ei gyfer yn werth yr hyn rydych yn bwriadu talu amdano.
Mae arolwg yn wahanol. Nod arolwg yw rhoi gwybodaeth i chi am y cartref rydych ar fin prynu. Gall roi tawelwch meddwl i chi am yr eiddo a helpu i godi unrhyw rybuddion.
Y gwahanol fathau o arolygon
Ceir tri phrif fath o arolwg:
-
Adroddiad pobl sy'n prynu tai
Mae'r rhain fel arfer yn addas ar gyfer eiddo o dan 50 oed. Bydd rhai benthycwyr yn rhoi opsiwn i chi gael adroddiad pobl sy'n prynu tai ar yr un pryd â'r prisiad sylfaenol.
-
Arolwg strwythurol llawn
Mae'r rhain fel arfer yn fwy perthnasol i eiddo hŷn. Mae arolygon strwythurol llawn yn fanylach ac yn dueddol o fod yn ddrytach, ond byddant yn rhoi gwybodaeth fanwl iawn am yr eiddo.
-
Arolwg mân broblemau
Mae arolwg mân broblemau yn nodi diffygion ac unrhyw waith anorffenedig. Mae un o'r rhain fel arfer yn ddigon am gartref ifanc neu newydd sbon. Gallwch negodi â'r datblygwyr i ddatrys mân broblemau cyn i chi symud i mewn.
Os ydych yn prynu yn yr Alban mae pethau ychydig yn wahanol i chi. Yn yr Alban, rhaid i'r gwerthwr ddarparu Adroddiad Cartref i chi, ond efallai yr hoffech ystyried talu am eich arolwg eich hun o hyd i roi tawelwch meddwl i chi.
- Getting a mortgage
Amser i drafod morgeisi?
Ffoniwch ein arbenigwyr morgeisi 0330 333 4002.
dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp.