Skip to content

Newidiadau Treth Stamp - beth maent yn ei olygu i chi

A mature couple sit in their garden. They are looking at their grass.

Yn yr erthygl hon

Beth yw Treth Stamp?

Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Stamp yw treth y gallai fod yn rhaid i chi ei thalu wrth brynu eiddo neu ddarn o dir yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Os ydych yn prynu cartref yng Nghymru neu’r Alban, ni fydd hyn yn berthnasol i chi gan fod ganddynt systemau gwahanol. Yng Nghymru byddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir ac yn yr Alban byddwch yn talu Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau.

 

Byddwch yn talu Treth Stamp os yw’r cartref rydych yn ei brynu yn costio mwy na swm penodol. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu a ydych yn prynu cartref newydd, cartref cyntaf neu gartref ychwanegol.

 

Bydd swm y Dreth Stamp y byddwch yn ei dalu yn amrywio yn dibynnu ar bris yr eiddo. Cyfrifir Treth Stamp ar sail bandiau. Byddwch ond yn talu treth ar y gyfran o bris eiddo sy'n dod o fewn pob band.

 

Cyfraddau Treth Stamp cyfredol (hyd at 31 Mawrth 2025)

Pris prynu eiddo

Cyfradd Treth Stamp

Hyd at £250,000

0%

£250,001 i £925,000

5%

£925,001 i £1.5 miliwn

10%

Uwchlaw £1.5 miliwn

12%

Enghraifft: Os yw’r tŷ yr ydych yn ei brynu yn costio £310,000 a bod eich morgais wedi’i gwblhau cyn 31 Mawrth 2025, y Dreth Stamp sy’n ddyledus gennych fydd:

  • 0% ar y £250,000 cyntaf = £0
  • 5% ar y £60,000 terfynol = £3,000
  • cyfanswm Treth Stamp = £3,000

Sut mae Treth Stamp yn newid?

O 1 Ebrill 2025 bydd rhai trothwyon Treth Stamp yn gostwng sy’n golygu y gallai swm y Dreth Stamp y byddwch yn ei dalu gynyddu.

 

Cyfraddau Treth Stamp o 1 Ebrill 2025

Pris prynu eiddo

Cyfradd Treth Stamp

Hyd at £125,000

0%

£125,001 i £250,000

2%

£250,001 i £925,000

5%

£925,001 i £1.5 miliwn

10%

Uwchlaw £1.5 miliwn

12%

Enghraifft: Os yw’r tŷ yr ydych yn ei brynu yn costio £275,000 a bod eich morgais yn cael ei gwblhau ar ôl 1 Ebrill 2025, y Dreth Stamp sy’n ddyledus gennych fydd:

  • 0% ar y £125,000 cyntaf = £0
  • 2% ar yr ail £125,000 = £2,500
  • 5% ar y £25,000 terfynol = £1,250
  • cyfanswm Treth Stamp = £3,750

Beth mae hyn yn ei olygu i brynwyr tro cyntaf

Os ydych yn brynwr tro cyntaf, gallwch hawlio gostyngiad neu ryddhad. Byddwch yn gymwys ar gyfer hyn os ydych chi neu unrhyw un yr ydych yn prynu gyda nhw yn brynwr tro cyntaf. O 1 Ebrill 2025, bydd uchafswm pris eiddo sy’n gymwys ar gyfer y gostyngiad yn gostwng o £425,000.

 

Disgownt o 1 Ebrill 2025

Pris prynu eiddo

Cyfradd Treth Stamp

Hyd at £300,000

0%

£300,001 i £500,000

5%

Enghraifft: Os yw eich cartref cyntaf yn costio £400,000 a bod eich morgais yn cael ei gwblhau ar ôl 1 Ebrill, y Dreth Stamp sy’n ddyledus gennych fydd:

  • 0% ar y £300,000 cyntaf = £0
  • 5% ar y £100,000 sy'n weddill = £5,000
  • cyfanswm Treth Stamp = £5,000

Os yw pris eich cartref dros £500,000, nid ydych yn gymwys i gael y rhyddhad. Bydd angen i chi ddilyn y rheolau ar gyfer y rhai sydd wedi prynu cartref o’r blaen.

Newidiadau Treth Stamp ar gyfer cartrefi ychwanegol

Os ydych eisoes yn berchen ar gartref ac yn prynu un arall, codir cyfradd Treth Stamp uwch arnoch. Mae’r trothwyon ar gyfer y cyfraddau uwch hefyd yn newid a bydd cyfraddau’n cynyddu ar 1 Ebrill 2025.

 

Y cyfraddau uwch o 1 Ebrill 2025

Pris prynu eiddo

Cyfradd Treth Stamp

Hyd at £125,000

5%

£125,001 i £250,000

7%

£250,001 i £925,000

10%

£925,001 i £1.5 miliwn

15%

Uwchlaw £1.5 miliwn

17%

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer fy nghais am forgais gyda Principality sydd heb ei gwblhau?

Os oes gennych gais am forgais gyda’r Principality sydd heb ei gwblhau, bydd angen i chi dalu Treth Stamp uwch os bydd eich morgais preswyl yn dod i ben ar ôl 1 Ebrill 2025.

 

I gyfrifo faint o Dreth Stamp fydd arnoch chi, defnyddiwch Gyfrifiannell Treth Stamp y Llywodraeth.