Skip to content

Y farchnad dai yng Nghymru ar fin adfer

A row of house at The Mill housing development in Cardiff

Yn yr erthygl hon

Cynnydd bach mewn prisiau tai

Cynyddodd pris cyfartalog cartref a werthwyd yng Nghymru ychydig i £233,200 yn chwarter olaf 2024, gan aros tua’r un lefel â dechrau’r flwyddyn.

Rhyddhawyd y ffigurau gan Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu Principality Ch4 2024 (Hydref - Rhagfyr), sy’n dangos y cynnydd a’r gostyngiad ym mhrisiau tai ym mhob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Cynnydd mewn gwerthiant tai 

Roedd y cynnydd mewn gwerthiant yn golgu bod nifer y trafodiadau ar y lefel uchaf ers tair blynedd, yn dilyn twf o'r naill chwarter i'r llall sy'n arwydd o awydd cryf ymhlith defnyddwyr, a marchnad dai yng Nghymru sydd ar fin newid er gwell.

Mae penderfyniad Banc Lloegr i ostwng y gyfradd sylfaenol ym mis Chwefror 2025, ynghyd â’r galw parhaus, yn egin gobaith i’r farchnad dai.

Cipolwg ar lefel ranbarthol

Y tu allan i'r darlun cenedlaethol o gynnydd cymedrol mewn prisiau, mae darlun cymysg ar lefel ranbarthol.  

Gallai prynwyr yn Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn ddisgwyl talu mwy, gan fod yr ardaloedd hyn wedi gweld cynnydd o 8% a 7.8% yn eu tro yn chwarter olaf y flwyddyn.

Gwelodd ardaloedd eraill, gan gynnwys Merthyr Tudful, brisiau yn disgyn yn Ch4, gan ostwng 17.9% yn ystod tri mis olaf y flwyddyn. Yn y cyfamser mae'r duedd o'r naill flwyddyn i'r llall ar gyfer yr un rhanbarth yn awgrymu ychydig dros ostyngiad o 5%.

Yn gyffredinol, gall ymchwil Cymdeithas Adeiladu Principality, sy’n seiliedig ar ddata Cofrestrfa Tir EF, ddatgelu bod llai o ostyngiadau mewn prisiau mewn ardaloedd rhanbarthol nag y bu flwyddyn yn ôl, am dri chwarter olaf y flwyddyn, gan gynnig rhywfaint o sefydlogrwydd i brynwyr a gwerthwyr mewn marchnad sy’n newid.

Gair gan ein Prif Swyddog Ariannol

Wrth siarad am Fynegai Prisiau Tai Ch4, dywedodd Iain Mansfield, Prif Swyddog Ariannol Cymdeithas Adeiladu Principality:

“Mae’r farchnad dai yng Nghymru wedi dangos gwytnwch yn erbyn amgylchedd heriol drwy gydol 2024, gyda Mynegai Prisiau Tai Principality yn dangos arwyddion clir o hyder newydd.

“Mae’r twf cyson mewn trafodiadau yn amlygu galw cryf am dai wedi’i ategu gan her barhaus cyflenwad cyfyngedig, sy’n parhau i lunio tirwedd y farchnad.

Parhaodd: “Mae marchnad dai fwy sefydlog yn newyddion i’w groesawu i brynwyr ac mae’n dystiolaeth o’r galw cryf am dai, a ysgogir gan brynwyr sy’n dymuno dod i mewn neu symud o fewn y farchnad, er gwaethaf tirwedd heriol y blynyddoedd diwethaf.

“Mae’r galw hwn yn amlwg yn y tua 12,800 o drafodiadau a gofnodwyd yng Nghymru yn y pedwerydd chwarter, sy’n cynrychioli cynnydd o 18% o gymharu â’r trydydd chwarter. Mae hefyd yn gynnydd o 28% o'r naill flwyddyn i'r llall – y lefel uchaf a welwyd ers diwedd 2021. Mae hyn yn adlewyrchu’r adferiad parhaus mewn trafodiadau a ddechreuodd yn yr ail chwarter ac yn dangos, er gwaethaf pwysau parhaus o ran costau byw, a’r amgylchedd cyfradd uwch, fod y galw’n parhau i dyfu.

“Mae cyflenwad isel o dai yn her wirioneddol i brynwyr ac mae mwy y gellir ei wneud hefyd i gefnogi prynwyr o ran fforddiadwyedd - yn enwedig i'r rhai sy'n gobeithio camu ar yr ysgol dai am y tro cyntaf. Cynhaliodd Principality arolwg diweddar a ddatgelodd fod 75% o’n Haelodau a ymatebodd yn dweud bod prisiau tai yn y DU yn ‘rhy uchel’, a 74% arall o ymatebwyr yn cytuno ei bod yn ‘anos o lawer’ i bobl ifanc gamu ar yr ysgol dai.

“Wrth edrych ymlaen, mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei bod wedi ymrwymo i ddiwygiadau cynllunio helaeth er mwyn adfer targedau tai lleol – gan ganolbwyntio'n benodol ar gynyddu tai cymdeithasol a fforddiadwy. Mae hyn, ynghyd â’r cymorth ychwanegol ar gyfer prynwyr tro cyntaf yng Nghymru, lle mae materion tai wedi’u datganoli, a gyhoeddwyd yng Nghyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru, yn arwydd o ragolygon cadarnhaol ar gyfer y dyfodol.

“Heb os, mae angen gwneud mwy i hwyluso fforddiadwyedd, ac fel cyllidwr blaenllaw sy’n gweithio gyda’r rhan fwyaf o gymdeithasau tai yng Nghymru, mae gan Principality ddiddordeb personol mewn bod yn rhan o’r ateb.”