Skip to content
Log in

Polisi bancio agored

Gwybodaeth i Ddarparwyr Gwasanaeth Gwybodaeth Cyfrif (AISP) a Darparwyr Gwasanaeth Cychwyn Taliadau (PISP) 

Cydymffurfio â Chyfarwyddeb Gwasanaethau Taliadau 2


Nid ydym yn cynnig cyfrifon talu i'n cwsmeriaid, gan gynnwys cyfrifon cyfredol. 


Nid yw ein cyfleuster cyfrif ar-lein, 'Eich Cyfrif' yn caniatáu mynediad i ddarparwyr trydydd parti fel Darparwyr Gwasanaeth Gwybodaeth Cyfrif (AISP) a Darparwyr Gwasanaeth Cychwyn Taliadau (PISP). 


Mae'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau ariannol ddarparu mynediad AISP neu PISP i gyfrifon taliadau ar-lein yn unig. Gan nad ydym yn cynnig cyfrifon taliadau ar-lein, nid ydym yn darparu mynediad. 


Mae hyn yn unol â Rheoliadau 69 a 70 o Gyfarwyddeb Gwasanaethau Taliadau 2017 (PSD2). 


Rhagor o wybodaeth


Os oes gennych gwestiynau pellach neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost yn: enquiries@principality.co.uk

Os ydych chi'n anhapus gyda'n penderfyniad, gallwch wneud cwyn drwy anfon neges e-bost atom yn complaints@principality.co.uk