Ateb eich cwestiynau
Fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol sy’n eiddo i’n Haelodau, mae’n bwysig eich bod yn dweud eich dweud. Dyna pam mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bob blwyddyn yn rhoi’r cyfle i chi ofyn eich cwestiynau i’r Bwrdd a’r Uwch-dîm Arwain.
Dyma grynodeb o’r cwestiynau a’r adborth a gafwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2023. Gallai aelodau gyflwyno eu cwestiwn cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol drwy e-bost, neu ofyn ar y diwrnod yn bersonol neu ar y digwyddiad ar-lein. Maent wedi’u hanonymeiddio er mwyn caniatáu i ni eu rhannu â’r holl Aelodau.
Cwestiynau am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Dywedwch pam y penderfynwyd peidio â dosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol?
Cysylltwyd â’r holl Aelodau cymwys a oedd â chyfeiriad e-bost wedi’i gofrestru i’w hysbysu y byddwn yn anfon eu Hysbysiad Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’u Datganiad Ariannol Cryno atynt drwy e-bost, oni bai eu bod yn dewis cael copi caled. Ein nod yw lleihau ein hôl troed carbon drwy leihau faint o bapur a ddefnyddir yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Yn 2024, anfonwyd 215,583 o negeseuon e-bost (o gymharu ag 108,000 yn 2023) a 128,591 o becynnau papur (o gymharu â 209,000 yn 2023).
Er mwyn gwneud y profiad ar-lein mor syml â phosibl, gwnaethom nifer o welliannau i'r system gan gynnwys opsiwn pleidlais gyflym a sicrhau bod codau angenrheidiol yn llenwi'n awtomatig. Rydym yn falch o gadarnhau bod y newidiadau a wnaed wedi arwain at fwy o bleidleisiau a fwriwyd eleni o gymharu â Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol y llynedd.
Tra yn LV, a oedd gan Simon Moore unrhyw ran yn yr ymgais aflwyddiannus i dynnu'r statws cydfuddiannol oddi ar LV?
Rydym yn cadarnhau bod Simon Moore wedi ymuno â Bwrdd London Victoria Financial Services Limited ym mis Mehefin 2022, a hynny ar ôl i aelodau LV= wrthod gwerthu i gwmni ecwiti preifat.
Mae gan Simon brofiad o fyrddau cwmnïau cyhoeddus, preifat a chydfuddiannol, yn ogystal â gyrfa yn y sector ariannol. Mae ganddo sylfaen mewn rheoleiddio, llywodraethu, risg, cydymffurfio, perfformiad ariannol, gwasanaeth cwsmeriaid, tâl swyddogion gweithredol a chysylltiadau ag aelodau. Credwn y bydd hyn yn rhoi’r sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen arno fel aelod o’r bwrdd ac i gyfrannu at lwyddiant parhaus y Gymdeithas.
Pwy sy'n rhan o'ch Bwrdd a pham mai dim ond i'r Bwrdd y cawn ni bleidleisio ac nid i'r Pwyllgor Gweithredol?
Mae Rheolau'r Gymdeithas yn nodi y dylai maint y Bwrdd fod rhwng 7 ac 14 Cyfarwyddwr. Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2024, safodd 8 cyfarwyddwr i gael eu hethol neu eu hailethol. Ceisiodd Simon Moore a Shimi Shah gael eu hethol yn unol ag Adran 25(5) o Reolau’r Gymdeithas. Ceisiodd y cyfarwyddwyr eraill gael eu hailethol yn unol â Rheolau’r Gymdeithas ar ymddeoliad fesul cam sy’n caniatáu i gyfarwyddwr fod yn gymwys i’w ailethol heb enwebiad.
Mae Raj Marhawa (Prif Swyddog Risg) a Rob Regan (Prif Swyddog Gweithredu) yn aelodau o'r Pwyllgor Gweithredol (y pwyllgor rheoli uchaf), nid ydynt yn gyfarwyddwyr Bwrdd. Yr unig ddau aelod o’r Pwyllgor Gweithredol sy’n Gyfarwyddwyr Bwrdd (Cyfarwyddwyr Gweithredol) yw Julie-Ann Haines (Prif Swyddog Gweithredol) ac Iain Mansfield (Prif Swyddog Ariannol). Daw penodiadau i’r Pwyllgor Gwaith o dan gylch gorchwyl Julie-Ann Haines i benodi ei thîm arwain a rheoli’r Gymdeithas. Dim ond Cyfarwyddwyr Bwrdd y pleidleisir arnynt gan Aelodau a dim ond eu bywgraffiadau a'u tâl a restrir yn yr Adroddiad Blynyddol.
Mae Sally Jones-Evans yn bwriadu rhoi’r gorau i’w swydd fel Cadeirydd a Chyfarwyddwr, yn amodol ar etholiad llwyddiannus Simon Moore fel Cyfarwyddwr gan yr Aelodau ac wrth i ni aros am gymeradwyaeth reoleiddiol iddo ddod yn Gadeirydd. Gwnaethom hyn er mwyn sicrhau trosglwyddiad didrafferth.
Cynhelir proses recriwtio drylwyr a manwl cyn i’r Cyfarwyddwr sefyll etholiad. Ceisir ymgeiswyr mewn amrywiol ffyrdd, gan gynnwys drwy hysbysebion yn y wasg a gyda chymorth ymgynghorwyr chwilio allanol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r profion addasrwydd a phriodoldeb fel y rhagnodir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a rhaid iddynt gael cymeradwyaeth, lle bo angen, gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol cyn ymgymryd â'u rôl.
Mae Bwrdd effeithiol yn cynnwys unigolion sydd â'r cymysgedd cywir o wybodaeth, sgiliau a phrofiad. Rydym yn cynnwys crynodeb o wybodaeth, sgiliau a phrofiad y cyfarwyddwr yn eu bywgraffiadau ar ein gwefan. Mae sicrhau bod yr amcan hwn yn cael ei gyflawni yn un o gyfrifoldebau'r Cadeirydd, a gefnogir gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebiadau. Bob blwyddyn cynhelir adolygiad o wybodaeth, sgiliau a phrofiad a chofnodir matrics i lywio unrhyw anghenion recriwtio neu hyfforddiant.
Pam nad oedd llun a bywgraffiad Simon Moore wedi’u cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon?
Roedd yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn cwmpasu 1 Ionawr 2023 – 31 Rhagfyr 2023. Penodwyd Simon Moore i’r Bwrdd ym mis Ionawr 2024. Cafodd bywgraffiad ei gynnwys Simon ar dudalen 5-6 o’r Datganiad Ariannol Cryno a hefyd ar ein gwefan.
Pam mae Cymdeithas Adeiladu Principality yn parhau i bregethu am Gymdeithas Decach ac yna’n talu taliadau bonws cymesurol mwy i’r rhai sy’n cael eu talu fwyaf?
Rydym yn datgelu Cydnabyddiaeth Ariannol Gweithredwyr yn y Datganiadau Ariannol Cryno a'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon. Ddoe, gwnaethom sylwi ar gamgymeriad fformatio yn y tabl Cydnabyddiaeth Ariannol Gweithredwyr ar dudalen 87 o'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon. Er bod y ffigyrau yn gywir, roedd y penawdau yn y mannau anghywir. Mae'r fersiwn hon wedi'i chywiro a'i disodli ar ein gwefan. Rydym yn ymwybodol iddo gael ei lawrlwytho 144 o weithiau. Roedd y Datganiadau Ariannol Cryno a anfonwyd at yr holl Aelodau gyda'r Hysbysiad o Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gywir.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi ymgymryd â gwaith i gysoni'r rhan fwyaf o'n buddion ar draws pob lefel o'r sefydliad er mwyn sicrhau bod cydweithwyr yn cael eu trin mewn ffordd deg a chyson. Mae'r buddion sydd yr un fath yn cynnwys ein cynnig pensiwn cyfatebol, yswiriant bywyd, yswiriant salwch difrifol, cymhwyster yswiriant meddygol preifat am 1 flwyddyn o wasanaeth, a mynediad at ein cyfres lawn o fuddion hyblyg hunangyllidol. Mae ein dull o feincnodi cyflogau hefyd yn gyson ar draws pob gradd a lefel. Yn ogystal, nid ydym yn cynnig lwfansau car yn seiliedig ar lefel hynafedd cydweithiwr mwyach.
Mae nifer bach o fuddion sy'n cael eu cymhwyso'n wahanol yn dibynnu ar radd cydweithiwr, sy'n cefnogi ein gallu i fod yn gystadleuol yn y farchnad, ac i'n galluogi i ddenu a chadw talent wych. Mae’r buddion sy’n wahanol yn cynnwys swyddogion gweithredol sy’n cael yswiriant teulu o dan BUPA, a hawl i wyliau ychwanegol ar gyfer yr uwch-dîm arwain, er bod pob cydweithiwr yn cyrraedd yr un uchafswm o wyliau dros amser.
Mewn perthynas â thâl amrywiol, credwn ei bod yn iawn i’r rhai â’r rolau uchaf, sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb am gyfeiriad y Gymdeithas a’i llwyddiant yn y tymor hwy, gael cyfran uwch o’u pecyn cyflog cyffredinol yn gysylltiedig â pherfformiad. Am y rheswm hwn, yn ogystal â’r Dyfarniad Gwobrwyo Rhagoriaeth (y mae ein holl gydweithwyr yn cymryd rhan ynddo ar yr un sail yn union), mae uwch-arweinwyr yn cymryd rhan yn y Dyfarniad Arwain Rhagoriaeth sy’n cysylltu eu tâl amrywiol â chyflawniad llwyddiannus eu rolau a’u cyfrifoldebau fel uwch-arweinwyr. Mae’r math hwn o strwythur, gyda chyfran y tâl amrywiol yn cynyddu gyda chyfrifoldeb, yn nodweddiadol o sefydliadau o’n maint, strwythur a sector, ac yn ein barn ni mae’n fwy cynaliadwy a hyblyg na chael lefelau o gyflog sefydlog uwch.
Mae'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol yn cymeradwyo cydnabyddiaeth y Bwrdd Gweithredol. Mae pecynnau cydnabyddiaeth yn cael eu meincnodi a’u gosod ar lefel i ddenu a chadw talent ar bob lefel, sy’n sbardun allweddol i allu Principality i weithredu’n llwyddiannus. Fel y nodir yn Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol Cyfarwyddwyr eleni, mae cymhareb tâl y Prif Swyddog Gweithredol ar 14:1 ar hyn o bryd, sydd wedi aros yn gyson dros y 3 blynedd diwethaf.
A ydych wedi ystyried cylchdroi eich archwilydd allanol?
Gwnaethom ail-dendro ein harchwilydd allanol annibynnol ddiwethaf yn 2016, felly byddwn yn edrych ar hyn eto cyn bo hir. Mae'n ofynnol i ni ail-dendro ein harchwiliad allanol bob 10 mlynedd ac mae angen cylchdroi archwilwyr yn orfodol ar ôl 20 mlynedd. Rydym yn ystyried perfformiad ein harchwilydd allanol annibynnol yn flynyddol yn y Pwyllgor Archwilio. Rydym hefyd yn ystyried y ffioedd a delir i'n harchwilwyr allanol annibynnol sy'n cael eu meincnodi yn erbyn cwmnïau eraill o faint a chymhlethdod tebyg.
Mae Principality wedi ymrwymo i gynaliadwyedd a dod yn garbon niwtral, ond eto mae’n defnyddio sefydliadau a chyflenwyr eraill nad ydynt yn gwneud hynny. Pam?
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu o ddifrif ac yn ddiweddar rydym wedi cwblhau strategaeth effaith newydd, yn amlinellu ein huchelgeisiau fel busnes cyfrifol. Byddwch yn darllen mwy am hyn pan fyddwn yn cynhyrchu ein hadroddiad effaith cyntaf yn ddiweddarach eleni.
Rydym wedi cychwyn ar yr hyn a wyddom fydd yn daith hir, ac rydym eisoes wedi gosod y targed o fod yn sero net yn ein gweithrediadau erbyn 2040. Ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni hynny, gan ddod o hyd i ffyrdd o leihau ein hôl troed carbon yn sylweddol a gwrthbwyso'r allyriadau rydym yn eu cynhyrchu. Gallwch ddarllen mwy am sut rydym yn gwneud hyn a sut rydym yn rheoli risgiau newid hinsawdd yn ein hadroddiad TCFD. Rydym yn gweithio gyda chyflenwyr dethol i ddylanwadu ar eu cynnydd tuag at sero net.
Mae cydweithwyr sy’n rheoli rhai o’n cysylltiadau cyflenwyr mwyaf wedi cael hyfforddiant ar sut i gefnogi’r cyflenwyr hyn ar eu taith sero net eu hunain, ac rydym eisoes yn gweld cynnydd mewn dealltwriaeth ac ymrwymiad i leihau allyriadau CO2 o fewn ein cadwyn gyflenwi. Ar gyfer gofynion newydd, mae ein meini prawf ar gyfer dethol cyflenwyr a diwydrwydd dyladwy yn cynnwys cynaliadwyedd ac rydym wrthi’n chwilio am ffyrdd o gontractio â chyflenwyr o’r un anian.
A yw ymrwymiad amgylcheddol y gymdeithas yn ymestyn i gefnogi mentrau natur a bywyd gwyllt? A oes ganddo unrhyw bartneriaethau gyda sefydliadau fel yr RSPB neu ymddiriedolaethau bywyd gwyllt sirol?
Mae ein Rhwydwaith Cyfeillgar i'r Blaned a arweinir gan gydweithwyr yn cynnal nifer o weithgareddau ledled Cymru sy’n cefnogi byd natur. Yn amrywio o blannu coed, casglu sbwriel a garddio cymunedol. Mae'r Rhwydwaith hefyd yn gweithio'n agos gyda Green Squirrel, sef elusen gymunedol sy'n cefnogi gweithredu yn y gymuned ar hinsawdd a natur.
Sut mae Principality yn mynd i ymateb i sicrhau bod dyfodol hirdymor yn parhau’n ddiogel? A oes unrhyw gynlluniau i uno â chymdeithasau adeiladu eraill?
Nid oes gan y Gymdeithas unrhyw gynlluniau gweithredol i uno â chymdeithasau adeiladu eraill. Y brif ffordd o sicrhau dyfodol hirdymor y Gymdeithas yw drwy berfformiad da, cael cyfalaf cryf, hylifedd cryf, buddsoddi ar gyfer y dyfodol a chynnig gwerth da i’w Haelodau.
Mae’r perfformiad yn dangos bod y Gymdeithas yn gallu ffynnu ac wedi ennill yr hawl i gael dyfodol cynaliadwy.
A yw’n achos o wrthdaro buddiannau bod y bwrdd Cyfarwyddwyr, sy’n penderfynu ar nawdd i stadiwm y Principality, yw'r un bobl sy'n mwynhau tocynnau lletygarwch am ddim ar gyfer digwyddiadau dros y blynyddoedd diwethaf?
Daethom i’r penderfyniad i noddi’r stadiwm yn ôl yn 2015 a chytunwyd ar drefniant nawdd 10 mlynedd gydag URC ar delerau masnachol. Yn ystod y negodi, yn unol â'n prosesau caffael, ni dderbyniwyd unrhyw docynnau lletygarwch. O ganlyniad, defnyddiwyd lletygarwch yn unol â'r trefniadau cytundebol y cytunwyd arnynt.
Ystyriwyd y nawdd yn gyfle, i godi ymwybyddiaeth o frand Principality ar lefel leol a chenedlaethol, a hefyd i ganiatáu i ni gynnig profiadau unigryw, cystadlaethau a thocynnau cyn gwerthu i Aelodau, cwsmeriaid a chydweithwyr i ddigwyddiadau fel y gemau'r Chwe Gwlad Guinness.
Mae'r Bwrdd yn fodlon bod y ffordd yr ydym yn dosbarthu tocynnau yn deg. Mae ein polisi caffael yn sicrhau, os oes unrhyw negodi neu gontractio gydag unrhyw gyflenwr neu drydydd parti, gan gynnwys URC, yna ni chaniateir i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau elwa ar unrhyw letygarwch neu roddion.
Sylwch fod holl Gyfarwyddwyr y Bwrdd yn Aelodau o'r Gymdeithas ac mae ein Rheolau yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw isafswm blaendal o £1000 mewn cyfrif cynilo Cymdeithas.
Gydag etholiad cyffredinol i'w gynnal cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf, a yw'r Gymdeithas wedi bod yn cynrychioli'r pleidiau dan sylw ynghylch polisi ariannol y dyfodol?
Rydym yn cynnal trafodaethau rheolaidd â Llywodraeth Cymru ar nifer o faterion, gan gynnwys dyfodol y broses o wneud penderfyniadau polisi yng Nghymru. Rydym yn deall y gallai’r etholiad cyffredinol nesaf arwain at rywfaint o ansefydlogrwydd ac ansicrwydd yn y DU yn fwy cyffredinol ac wrth wneud ein cynlluniau ariannol, rydym yn cynnal dadansoddiad o senarios i geisio asesu sut y gellid effeithio ar bolisi ariannol yn y dyfodol a’r amgylchedd economaidd y mae’r Gymdeithas yn gweithredu ynddo. Rydym yn fodlon, drwy amrywiaeth o senarios, fod perfformiad y Gymdeithas yn parhau’n gryf hyd y gellir rhagweld. Mae Prif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas hefyd ar Gyngor Busnes y Prif Weinidog ar hyn o bryd.
Cwestiynau am ein gwasanaethau a'n cynhyrchion
A oes cyfle i bleidleisio drwy gyfrwng y Gymraeg?
Gall aelodau bleidleisio yn Gymraeg. Mae croeso i aelodau newid eu dewisiadau i gael gohebiaeth yn Gymraeg a byddant yn cael holl ohebiaeth y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a ffurflenni pleidleisio yn Gymraeg. Gall aelodau hefyd ofyn cwestiwn yn Gymraeg yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Am ba hyd y mae Principality wedi ymrwymo i gadw ei changhennau ar agor ar y stryd fawr?
Mae ein hymrwymiad i’r Stryd Fawr yn parhau’n gryf – ym mis Chwefror 2022 gwnaethom addo cadw ein holl ganghennau ar agor tan o leiaf diwedd 2025. Mae adborth gan Aelodau yn parhau i gadarnhau bod cael mynediad at arian parod a gwasanaethau yn hanfodol bwysig iddynt, ac rydym yn gweld ein presenoldeb ar y stryd fawr fel rhan allweddol o’r hyn a gynigiwn fel cymdeithas adeiladu sy’n eiddo i’r Aelodau.
Mae hyn yn mynd yn groes i’r duedd rydym yn ei gweld ar draws gweddill y DU a thra bod ein Haelodau’n parhau i ddefnyddio, gwerthfawrogi ac argymell ein canghennau, bydd y rhain yn sylfaen y gwasanaethau a gynigir gennym.
Sut mae Principality yn cefnogi cwsmeriaid agored i niwed, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn o bwysau ar gostau byw?
Mae cynorthwyo ein cwsmeriaid yn ystod cyfnodau o galedi ariannol yn flaenoriaeth allweddol i ni, yn enwedig o gofio’r argyfwng costau byw presennol lle mae biliau cartrefi a chost eitemau bob dydd yn cynyddu’n gyson. Rydym yn cydnabod bod ein Haelodau yn wynebu heriau parhaus a achosir gan gostau byw ac ansicrwydd yn y farchnad.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ein Haelodau i gyd, ac ar gyfer y rhai sydd angen cymorth ychwanegol gennym ni, rydym yn buddsoddi mewn gallu yn y dyfodol i roi cymorth gwell. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, ac felly rydym wedi gweithio'n galed i ddarparu mwy o offer ac arweiniad i'n cydweithwyr i gefnogi anghenion ein cwsmeriaid.
Fel rhan o’r broses hon rydym yn adolygu anghenion ein cwsmeriaid yn barhaus ac yn ymateb yn unol â hynny, ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau allanol, yn unol â’n gofynion rheoleiddio. Byddem yn annog unrhyw un sydd angen cymorth i gysylltu â ni.
Pryd y byddwn yn cael ap?
Rydym yn adolygu’n barhaus y ffordd orau i ni ddiwallu anghenion ein Haelodau a defnyddwyr sy’n ystyried cadw eu cynilion gyda ni neu fenthyca arian i’w helpu i brynu cartref. Mae hyn yn cynnwys edrych ar sut y gall Aelodau ryngweithio â ni naill ai'n bersonol neu drwy ddefnyddio dewisiadau digidol eraill.
Rydym wrthi'n gweithio ar nifer o fentrau sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i symleiddio a gwella ein profiad ar-lein a mynediad iddo. Er nad yw ap yn un o’r rhain ar hyn o bryd, rydym yn ymdrechu’n barhaus i wneud pethau’n haws i’n cwsmeriaid a’n Haelodau.
A wnewch chi gyflwyno cerdyn ATM fel y gallaf gymryd arian allan ar wyliau?
Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ddarparu cardiau i ganiatáu codi arian parod o beiriant ATM ar hyn o bryd. Siaradwch ag un o staff ein cangen y tro nesaf y byddwch yn mynd, oherwydd efallai y bydd ffyrdd eraill y gallwn eich helpu i gael mynediad at eich cynilion pan fyddwch ar wyliau, megis anfon arian yn electronig i'ch cyfrif cyfredol (os oes gennych un).
A fydd Principality yn caniatáu i’r llywodraeth weld ein cyfrifon?
Mae’r mesurau arfaethedig wedi’u cynnwys yn y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol presennol a chan nad yw’r Bil yn gyfraith eto, nid yw’r gofyniad yn hysbys ar hyn o bryd.
Rydym yn eich sicrhau bod Cymdeithas Adeiladu Principality yn cymryd ei chyfrifoldebau am ddiogelu data personol Aelodau o ddifrif, a byddwn ond yn rhannu data personol lle mae gofyniad cyfreithiol clir i wneud hynny.
Beth yw safbwynt Principality ar arian parod a’i hymrwymiad i arian parod?
Roedd defnydd arian parod wedi cynyddu yn y 12 mis diwethaf ar ôl gostwng yn sylweddol o ganlyniad i Covid-19. Mae’r Gymdeithas yn treialu OneBanx yn y Bont-faen, lle gall cwsmeriaid o 23 o fanciau eraill gael mynediad i arian parod a thalu arian parod i mewn i’w cyfrifon banc personol a busnes o fewn ein canghennau.
A fyddwch yn cyflwyno Taliadau Cyflymach ar gyfer ISA?
Rydym am sicrhau ein bod yn cynnig y profiad cwsmeriaid gorau posibl i’n Haelodau, felly rydym yn ystyried datblygu ein gallu i dalu’n electronig i ISAs.
Pam na allaf fuddsoddi mwy na £20k mewn ISA?
Rydym am gynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl i’n Haelodau ac rydym yn adolygu’r newidiadau caniataol (dewisol) sydd wedi’u gwneud i’r rheoliadau ISA o 6 Ebrill 2024, megis talu i mewn i nifer o ISAs, ac ystyried y ffordd orau o symud ymlaen gyda nhw.
Pryd ydych chi'n mynd i godi cyfraddau llog ar gynilion?
Rydym yn adolygu ein cyfraddau llog yn gyson er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig gwerth teg i’n Haelodau a bod gennym nifer o gynhyrchion sy’n cael eu prisio tuag at y brig yn y farchnad, megis yr ISA Bonws Ar-lein. Rydym yn newid prisiau yn rheolaidd i ymateb i newidiadau yn y farchnad ac yn parhau i gynnig y cyfraddau da y gallwn ar draws ein hystod cynnyrch.
Pam mae cyfraddau eich morgais mor uchel?
Mae ein cyfraddau wedi gorfod codi oherwydd y cynnydd yn y gyfradd sylfaenol - o 0.1% yn 2022 hyd at 5.25%. Er mwyn parhau i fod yn gystadleuol yn y farchnad cynilo a chynnig enillion teg, rydym wedi gorfod cynnig cyfraddau cynilo uwch, ond rydym wedi ceisio lliniaru hyn yn ein codiadau i’n cwsmeriaid morgais.
Rydym yn ceisio cynnig cyfraddau ffafriol i’n cwsmeriaid morgais presennol pan ddaw eu cytundebau cyfradd sefydlog i ben ac rydym yn parhau i adolygu cyfraddau wrth i Fanc Lloegr newid eu cyfradd sylfaenol. Mae ein hystod cynhyrchion morgais yn cael ei ddiweddaru bob 3 - 4 wythnos er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y cynhyrchion morgais diweddaraf.
Gyda’r potensial am ragolygon economaidd mwy cadarnhaol yn 2024, byddwn yn ceisio trosglwyddo unrhyw gyfle i ostwng cyfraddau morgais ar gyfer ein Haelodau.
Ydych chi'n rhoi benthyg i lywodraethau lleol?
Nid yw'r Gymdeithas yn rhoi benthyg i lywodraethau lleol. Byddai’r Tîm Masnachol wrth ei fodd yn gwneud ychydig mwy o waith e.e. menter ar y cyd â llywodraethau lleol ond fel arfer mae gan gynghorau ffyrdd o ddarparu cyllid arall.
Mae'r Gymdeithas yn meithrin perthynas â Llywodraeth Cymru, y cyngor, cymdeithasau tai a chymunedau.
Pam nad oes gennym gyfrif teyrngarwch?
Roedd gan y Gymdeithas gyfrifon teyrngarwch yn y gorffennol. Fodd bynnag, mae'r strategaeth bresennol yn ymwneud â chynnig cyfraddau gwych i bob Aelod; mae amrywiaeth o gynhyrchion cryf e.e. cynnyrch cynilwr rheolaidd ar 6% a chynhyrchion canghennau.
Mae rheoliad Dyletswydd y Defnyddwyr wedi newid y dirwedd o ran sut mae rhai cynhyrchion yn cael eu cynnig gan fod ffocws ar ddod â gwerth mawr i bawb. Rydym yn gyson yn talu uwchlaw’r farchnad yn ein cynigion cynilo, a chynigir cyfraddau arbennig ar aeddfedrwydd ar gyfer cwsmeriaid presennol yn unig.
Pam nad yw’r Gymdeithas yn cynnig llai na 12 mis o gynnyrch sefydlog?
Yn seiliedig ar adborth gan y canghennau, mae llawer o gwsmeriaid yn dewis y cynhyrchion cyfradd sefydlog 2 flynedd oherwydd yr ansicrwydd yng nghyfraddau'r farchnad. Nid ydym wedi gweld tuedd o ran cwsmeriaid yn gofyn am gyfraddau sefydlog byrrach.