Skip to content

Esbonio eich datganiad

Mae eich datganiad yn dangos y llog a dalwyd o fewn cyfnod y datganiad o 6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025. Telir llog ar ddyddiadau gwahanol yn dibynnu ar y math o gyfrif sydd gennych. Mae’r llog a ddangosir ar eich datganiad yn ymwneud â’r cyfnod rhwng 6 Ebrill 2024 a 5 Ebrill 2025, ond gall y dyddiad talu gwirioneddol fod yn wahanol ar gyfer pob cyfrif.

Dyma sut mae llog yn cael ei dalu am wahanol fathau o gyfrifon:

ISAs a Bondiau Cyfnod Penodol: Telir llog blynyddol ar ben-blwydd agor eich cyfrif (neu pan fydd yn aeddfedu os yw’n gyfnod penodol o 1 flwyddyn). Gallwch weld eich dyddiad aeddfedu ar eich datganiad.

ISAs (cyfradd amrywiol): Telir llog blynyddol ar 6 Ebrill.

Cyfrifon Cyfradd Amrywiol (ac eithrio ISAs): Telir Llog Blynyddol ar 1 Ionawr. Os yw eich cyfrif yn un Cynilo Misol, 30 Diwrnod Uniongyrchol neu 60 Diwrnod Uniongyrchol, telir eich llog ar ben-blwydd agor eich cyfrif.

Llog misol: Telir llog misol ar fondiau cyfnod penodol fis ar ôl agor eich cyfrif, a phob mis ar ôl hynny. Telir llog misol am ISA ar y 6ed o bob mis. Ar gyfer cyfrifon amrywiol nad ydynt yn ISA, telir llog ar y 1af.

Angen help i ddeall eich datganiad?

Gall ein canllaw esboniadol ar gyfer y datganiad eich helpu i ddeall pryd mae llog wedi’i dalu ar eich cyfrif cynilo cyfradd amrywiol, gan gynnwys rhestr o’r holl newidiadau yn y gyfradd amrywiol yn ystod y flwyddyn.

Canllaw Cyfradd Cryno a Nodiadau Esboniadol y Datganiad

Taflen Wybodaeth a Rhestr Waharddiadau FSCS

Mae gwahanol fathau o gyfrifon yn talu llog ar wahanol adegau, mae’r dyddiad yn amrywio yn dibynnu ar ba fath o gyfrif sydd gennych:

  • ISAs a Bondiau Cyfnod Penodol: Telir llog blynyddol ar ben-blwydd agor eich cyfrif neu pan fydd yn aeddfedu. Os nad yw eich cyfrif cyfnod penodol wedi cyrraedd ei ben-blwydd neu ei aeddfedrwydd erbyn 5 Ebrill 2025, ni fydd unrhyw log yn cael ei dalu yn ystod cyfnod y datganiad, a bydd y datganiad yn dangos dim llog. Gallwch weld eich dyddiad aeddfedu ar eich datganiad.
  • ISAs (cyfradd amrywiol): Telir llog blynyddol ar 6 Ebrill. Ni fydd llog a enillwyd yn ystod cyfnod y datganiad (6 Ebrill 2024 – 5 Ebrill 2025) yn ymddangos ar y datganiad hwn. Bydd yn cael ei dalu ar 6 Ebrill 2025 a bydd yn cael ei ddangos ar ddatganiad y flwyddyn nesaf.
  • Cyfrifon Cyfraddau Amrywiol (ac eithrio ISAs a chyfrifon ar-lein): Telir llog blynyddol ar y cyfrifon hyn ar 1 Ionawr bob blwyddyn. Telir y llog a enillwyd rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024 ar 1 Ionawr 2025, a bydd hwn yn ymddangos ar eich datganiad a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2025.
    • Os yw eich cyfrif yn un Cynilo Misol, 30 Diwrnod Uniongyrchol neu 60 Diwrnod Uniongyrchol, telir eich llog ar ben-blwydd agor eich cyfrif
    • Os oes gennych gyfrif amrywiol, efallai y bydd y gyfradd wedi newid drwy gydol y flwyddyn, felly efallai y bydd cyfanswm y llog a dalwyd wedi’i gyfrifo ar gyfraddau gwahanol.
    • Os ydych yn ansicr pryd y telir llog ar eich cyfrif amrywiol, neu eich cyfraddau llog blaenorol, mae'r wybodaeth hon ar gael yn Nodiadau Esboniadol y Datganiad.

Os oes gennych gyfrif cynilo cyfradd amrywiol, caiff eich llog ei gyfrifo’n ddyddiol ar sail y balans yn eich cyfrif a’r gyfradd llog bryd hynny. Os bydd y gyfradd llog yn newid yn ystod y flwyddyn, cyfrifir eich llog gan ddefnyddio'r gyfradd sydd mewn grym ar gyfer pob cyfnod.
Er enghraifft:

  • Os oedd gan eich cyfrif gyfradd llog o 3.00% rhwng mis Ionawr a mis Mehefin, cyfrifwyd llog yn ddyddiol ar y gyfradd honno yn ystod y cyfnod hwn. 
  • Pe bai'r gyfradd wedyn yn gostwng 2.50% o fis Gorffennaf i fis Rhagfyr, cyfrifwyd llog yn ddyddiol ar y gyfradd is newydd o'r pwynt hwnnw ymlaen. 
    Bydd eich datganiad blynyddol yn dangos cyfanswm y llog a dalwyd i chi yn ystod cyfnod y datganiad, yn seiliedig ar yr holl newidiadau mewn cyfraddau drwy gydol y flwyddyn.

Gallwch ddarllen Nodiadau esboniadol y datganiad i weld rhestr lawn o newidiadau cyfradd amrywiol ar gyfer eich cyfrif.

Os oes gennych gyfrif ar-lein, (h.y. mae enw eich cyfrif yn cynnwys ‘ar-lein’), byddwch yn cael datganiad digidol drwy’r platfform ar-lein. Os yw eich cyfrif yn ISA ar-lein byddwch yn cael datganiad ym mis Ebrill, bydd pob cyfrif ar-lein arall yn cael datganiad ym mis Ionawr. Bydd cyfrifon eraill, fel bondiau cyfnod penodol ac ISAs, sy’n cael eu hagor ar-lein yn cael datganiad drwy’r post.

Os oes gennych gyfrif ar y cyd, byddwch yn cael datganiad ar wahân wedi'i chyfeirio atoch chi a deiliad/deiliaid eich cyfrif ar y cyd. Felly efallai y byddwch yn cael mwy nag un datganiad os oes gennych gyfrifon personol a chyfrifon ar y cyd.

Os ydych wedi cau cyfrif, ni fydd y cyfrif hwn yn ymddangos ar eich datganiad, ond gallwch ofyn am un drwy gysylltu â ni.

Gallwch ofyn am ddatganiad treth drwy neges ddiogel (drwy'r platfform ar-lein), ffonio ni neu fynd i'ch cangen leol.