Rhyddhau ecwiti o'ch cartref
Yn y canllaw hwn
Beth yw ecwiti cartref?
Ecwiti cartref yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth eich cartref yn y farchnad ar hyn o bryd a faint sy'n ddyledus gennych o hyd ar y morgais.
Er enghraifft, os yw gwerth eich cartref yn £200,000 ac mae arnoch £120,000, eich ecwiti fyddai £80,000.
Gall ecwiti gynyddu dros amser:
- Wrth i chi dalu mwy o'ch morgais.
- Wrth i werth eich cartref dyfu.
Beth yw rhyddhau ecwiti?
Mae rhyddhau ecwiti yn ffordd o ddatgloi arian o'ch cartref heb orfod ei werthu. Fel arfer mae ar gael i berchnogion tai 55 oed a hŷn.
Gellir cymryd yr arian fel:
- Cyfandaliad
- Cyfres o daliadau llai
- Cyfuniad o'r ddau
Fel arfer, caiff y benthyciad ei ad-dalu pan fyddwch yn marw neu'n symud i ofal hirdymor.
Beth yw'r prif opsiynau ar gyfer rhyddhau ecwiti?
Ceir 2 math o gynhyrchion rhyddhau ecwiti:
1. Morgais gydol oes
Morgais gydol oes yw benthyciad wedi'i ddiogelu yn erbyn eich cartref - byddwch yn parhau i fod yn berchen arno. Gallwch ddewis:
- Gwneud ad-daliadau misol.
- Gadael i'r llog gronni (a chael ei ychwanegu at eich benthyciad).
Mae'r benthyciad a'r llog yn cael eu had-dalu pan fydd eich cartref yn cael ei werthu ar ôl i chi farw neu symud i ofal hirdymor. Fel arfer, gallwch glustnodi rhywfaint o werth eich eiddo i'w adael fel etifeddiant.
2. Dychweliad cartref
Dychweliad cartref yw pan fyddwch yn gwerthu'ch holl gartref neu ran ohono i ddarparwr yn gyfnewid am gyfandaliad neu daliadau rheolaidd. Gallwch wneud y canlynol:
- Parhau i fyw yn eich cartref, heb rent, am weddill eich oes - ond rhaid i chi gynnal a chadw ac yswirio'r eiddo.
- Cadw cyfran o'r eiddo i'ch anwyliaid.
Pan fyddwch yn marw neu'n symud i ofal hirdymor, caiff y cartref ei werthu a chaiff yr arian ei rhannu'n seiliedig ar gyfrannau perchenogaeth.
Rhesymau mae pobl yn dewis rhyddhau ecwiti
Mae rhyddhau ecwiti yn benderfyniad personol. Dyma resymau cyffredin dros wneud hynny:
- Talu am welliannau neu atgyweiriadau i'r cartref.
- Clirio dyledion fel benthyciadau neu gardiau credyd.
- Rhoi arian i blant neu wyrion/wyresau (e.e. helpu gyda blaendal ar gyfer tŷ neu gostau prifysgol).
Pethau i'w hystyried cyn penderfynu rhyddhau ecwiti
Y costau uniongyrchol
Gall fod ffioedd a chostau gan gynnwys:
- Ffioedd cyfreithiol neu ffioedd trefnu
- Cyfraddau llog uwch o'i gymharu â morgeisi eraill ar y farchnad
Gallai rhyddhau ecwiti hefyd effeithio ar unrhyw fudd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd a gewch.
Opsiynau amgen
Cyn ymrwymo, meddyliwch am ffyrdd eraill o godi arian. Gallai hyn fod yn bethau fel lleihau maint eich tŷ, defnyddio cynilion, neu archwilio benthyciadau personol. Ewch ati i bwyso a mesur manteision ac anfanteision pob un cyn i chi benderfynu.
Yr effaith hirdymor
Gallai rhyddhau ecwiti effeithio ar eich sefyllfa ariannol yn y dyfodol. Gall leihau gwerth eich ystad ac effeithio ar yr hyn y gallwch ei adael ar ôl fel etifeddiant. Gallai hefyd effeithio ar eich incwm ymddeol neu opsiynau gofal yn y dyfodol.
Sut i ryddhau ecwiti o'ch cartref
Os ydych yn ystyried rhyddhau ecwiti, siaradwch â'ch benthyciwr neu gynghorydd cymwysedig. I siarad â'n tîm morgeisi am eich morgais Principality, cysylltwch â ni i archwilio'ch opsiynau.
- Morgeisi
Eisiau trafod eich opsiynau?
Ffoniwch ein arbenigwyr morgeisi ar 0330 333 4002
dydd Llun i ddydd Gwener 9:30yb - 5yp a ddydd Sadwrn 9yb - 1yp