Skip to content

Cymorth gan y teulu i brynu cartref am y tro cyntaf

 A grandmother, mother and child sit on an armchair and smile at a tablet screen.

Yn y canllaw hwn

Cymorth gan y teulu i brynu eich cartref cyntaf

Os ydych yn cynilo ar gyfer eich cartref cyntaf, efallai fod gennych aelodau o'r teulu sydd mewn sefyllfa i'ch helpu. (Os ydych yn ffodus iawn).

Gallai cymorth ariannol gan eich teulu eich helpu i brynu cartref am y tro cyntaf yn gynt, ond mae'n bwysig sicrhau bod gan bawb dan sylw ddealltwriaeth o beth yw'r cymorth hwnnw.

Mae ceisio cyngor cyfreithiol neu ariannol annibynnol yn syniad da. Mae'n helpu i sicrhau bod pawb yn gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth.

Dyma rai o'r priff ffyrdd y gaell eich teulu eich helpu i brynu'ch cartref cyntaf:

Rhoi arian tuag at eich blaendal

Gall aelod o'r teulu rhoi cyfandaliad o arian tuag at eich blaendal. Rhaid iddo fod yn rhodd go iawn, sy'n golygu:
 

  • Nid oes disgwyl i chi ad-dalu'r arian.
  • Ni fydd gan yr aelod o'ch teulu unrhyw hawl gyfreithiol i'ch cartref.

Dylai pawb ddeall na fyddwch yn ad-dalu'r arian, ac na fydd ganddynt unrhyw hawliau cyfreithiol dros eich eiddo.


Beth fydd angen i chi ei wneud: 

  • Dangos prawf o'r arian

    Bydd eich cyfreithiwr a'ch benthyciwr yn gofyn am ddogfennau (fel cyfriflen banc) yn dangos o ble y daeth yr arian.

  • Ceisio cyngor ariannol

    Nid yw'n beth braf meddwl amdano - ond os bydd yr unigolyn sy'n rhoi'r arian i chi yn marw o fewn saith mlynedd,  efallai y bydd angen i chi dalu treth etifeddiaeth ar y swm a roddwyd i chi. Gall cynghorydd ariannol eich helpu i ddeall y risgiau a beth y gallai hynny ei olygu i chi.

Benthyca arian tuag at eich blaendal

Gallai aelod o'r teulu ddewis benthyca yr arian i chi i roi hwb i'ch blaendal;, yn lle ei roi i chi. Os yw'r arian yn fenthyciad yn hytrach na rhodd, mae disgwyl i chi ad-dalu'r aelod o'ch teulu; gyda llog o bosibl.

Mae'n bwysig iawn gosod telerau clir o ran sut y byddech yn ei ad-dalu. Gall cytundeb benthyca ffurfiol amlinellu sut a phryd y bydd yr arian yn cael ei ad-dalu, a beth fydd yn digwydd os na allwch ad-dalu. 

 

Beth fydd angen i chi ei wneud: 

  • Cael prawf o'r benthyciad

    Bydd eich benthyciwr morgais am weld eich cytundeb benthyciad. Dylech fod yn ymwybodol nad yw rhai benthycwyr yn derbyn blaendaliadau a ddaw o arian wedi'i fenthyca.

  • Cael cyngor cyfreithiol

    Dogfen gyfreithiol yw cytundeb benthyciad, felly bydd angen cyfreithiwr arnoch. Gallai siarad â chynghorydd morgeisi hefyd fod yn ddefnyddiol i'ch helpu i ddeall sut mae benthycwyr gwahanol yn gweld benthyciadau teuluol.

Ffyrdd eraill y gall eich teulu helpu

Yn dibynnu ar eich benthyciwr, efallai y bydd eich teulu hefyd yn gallu cefnogi eich cais am forgais mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft:

Siaradwch â chynghorydd morgeisi i ddeall pa opsiynau a allai fod yn addas ar gyfer eich sefyllfa chi.

Angen help llaw?

Mae angen ychydig o help weithiau i gamu ar yr ysgol eiddo. Mae gennym rai ffyrdd y gallwch gael cymorth ychwanegol.