Skip to content

Costau ychwanegol y dylai prynwyr tro cyntaf gynilo ar eu cyfer

A couple sits on their stairs looking at paint colour cards, surrounded by decorating tools.

Yn y canllaw hwn

Costau ychwanegol y dylai prynwyr tro cyntaf gynilo ar eu cyfer

Os ydych yn bwriadu prynu eich cartref cyntaf, mae'n bosibl y byddwch yn gwybod bod angen i chi wneud y canlynol

  • Cynilo ar gyfer blaendal.
  • Ymrwymo i ad-daliadau morgais bob mis.

Ond, nid dyna'r unig gostau i baratoi ar eu cyfer. Dyma ganllaw syml i'r costau ychwanegol annisgwyl i brynwyr tro cyntaf; a sut i baratoi ar eu cyfer.

Treth Stamp (neu gyfwerth)

Mae hon yn dreth y gallai fod angen i chi ei thalu wrth brynu cartref. Mae'r enw a'r rheolau'n amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Er enghraifft:

  • Yng Nghymru, fe'i gelwir yn Treth Trafodiadau (LTT)
  • Yn Lloegr, fe'i gelwir yn Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT)

Dim ond os yw cost yr eiddo rydych chi'n ei brynu dros swm penodol y bydd angen i chi ei dalu. Mae'r rheolau a'r symiau'n amrywio ledled y DU, ac yn aml gall prynwyr tro cyntaf gael disgownt neu esemptiad. Cadarnhewch y trothwyon diweddaraf ar wefan eich llywodraeth.

Ffioedd cyfreithiol

Bydd cyfreithiwr neu drawsgludwr yn rheoli'r rhannau cyfreithiol o brynu eich tŷ; pethau fel llunio contractau, cynnal chwiliadau lleol a chofrestru'ch perchenogaeth o'r eiddo.

Gall y ffioedd amrywio yn dibynnu ar werth a lleoliad eich eiddo.

Arolwg Tai

Bydd eich benthyciwr morgais yn cynnal prisiad i sicrhau bod yr eiddo y mae'n rhoi benthyg arian i chi ar ei gyfer yn werth yr hyn rydych yn bwriadu talu amdano.

Mae'r prisiad er budd y benthyciwr, felly gall fod yn syniad da cael arolwg ar wahân i gadarnhau cyflwr yr eiddo. Os bydd unrhyw broblem, gallwch bob amser fynd yn ôl at y gwerthiwr eiddo ac aildrafod eich cynnig. 

Gellir dewis o'r canlynol: 

  • Adroddiad ar gyfer pobl sy'n prynu tai.
  • Arolwg strwythurol llawn.
  • Arolwg o fân broblemau (fel arfer ar gyfer adeiladau newydd).

Maent yn amrywio o ran cwmpas a chost, yn dibynnu ar faint, lleoliad a gwerth eich eiddo,. Felly, bydd angen i chi bwyso a mesur eich opsiynau i gyd a phenderfynu beth sydd orau i chi.

Chwiliadau lleol

Bydd eich cyfreithiwr neu drawsgludwr yn cynnal chwiliadau i wirio pethau fel:

  • Gwaith ffordd neu ddatblygiadau arfaethedig gerllaw.
  • Risgiau llifogydd neu ddraenio
  • Cyfyngiadau cyfreithiol ar y tir.

Ffioedd cofrestru tir

Unwaith y bydd y gwerthiant wedi'i gwblhau, bydd eich cyfreithiwr yn cofrestru'r eiddo yn eich enw. Mae'r gost yn dibynnu ar werth yr eiddo.

Cofrestrfa Tir EF sy'n ymdrin â thir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr.

Costau morgais

Yn ogystal â'ch ad-daliadau misol, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd fel:

  • Ffi bwcio
  • Ffi drefnu
  • Ffi prisiad
  • Ffi trosglwyddiad electronig

Mae costau'n amrywio rhwng benthycwyr, ac mae rhai benthycwyr yn ychwanegu'r costau hyn at eich morgais. Mae eraill yn gofyn iddynt gael eu talu ymlaen llaw. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadarnhau'r manylion.

Costau symud

Bydd y gost o symud cartref yn amrywio yn dibynnu ar faint o gymorth sydd ei angen arnoch. Mae'n bosibl y gallwch wneud llawer o'r gwaith - neu'r holl waith - eich hunain. Gall costau gynnwys:

  • Llogi fan neu gwmni symud
  • Prynu deunyddiau pacio
  • Talu ar gyfer storio

Efallai y gallwch leihau costau drwy ffonio ffrindiau neu deulu am gymorth.  

Wedi'ch llethu? 

Mae llawer i feddwl amdano - ond peidiwch â phoeni! Gyda rhywfaint o gynllunio ac amynedd, fe allwch chi ei wneud e.

Rhowch gynnig ar ein ap am ddim i brynwyr tro cyntaf. Ewch ati i osod nodau cynilo, olrhain eich cynnydd, a magu hyder wrth i chi symud tuag at berchentyaeth. 

 

An illustrated Principality logo. (Welsh)

Gall prynu eich cartref cyntaf deimlo'n llethol

Mae ein ap am ddim wedi ei gynllunio i'ch tywys drwy'r broses o brynu cartref cyntaf. Dilynwch y camau i ddeall y jargon a gwybod beth i'w wneud a phryd i baratoi ar gyfer morgais.