Skip to content
Log in

Gwybodaeth a pholisïau cyflenwyr

Mae ein polisïau cyflenwyr yn rhoi trosolwg o'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gennych pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd. Rydych yn cytuno i'r polisïau a'r telerau hyn pan fyddwch yn dechrau gweithio gyda ni. 

Prynu nwyddau/gwasanaethau

Pan fyddwn yn eich sefydlu fel cyflenwr, bydd angen copi swyddogol o fanylion eich cwmni arnom. Bydd hyn yn ein galluogi i’ch talu gan ddefnyddio ein dull BACS. Rydym yn gwneud taliadau diddadl o fewn 30 diwrnod.

Byddwn naill ai'n rhoi archeb brynu neu gontract ysgrifenedig pan fyddwch yn cyflenwi nwyddau neu wasanaethau.

Archebion prynu 

Pan fyddwn yn rhoi archeb brynu, bydd y trafodiad yn cael ei rwymo gan delerau ac amodau ein harcheb brynu. Ni fydd y telerau a'r amodau yn berthnasol os ydym wedi llunio cytundeb gwahanol gyda chi.

Telerau ac amodau archeb brynu

Rydym yn defnyddio system prynu i dalu (P2P) sy'n ein galluogi i godi archebion prynu cyn i nwyddau gael eu danfon neu wasanaethau gael eu darparu. Dim ond pan fyddwn wedi darparu archeb brynu i chi y dylech ddechrau gweithio. Os na fyddwch yn cynnwys archeb brynu ar eich anfoneb, bydd yn cael ei ddychwelyd atoch heb ei thalu.

Contractau ysgrifenedig 

Efallai y byddwn yn trefnu contract ysgrifenedig gyda chi i reoli ein perthynas. Efallai y byddwn yn dal i godi archebion prynu yn unol â'n cytundeb.

Sicrwydd cyflenwyr 

Cyn ymrwymo i berthynas â thrydydd parti, mae'n rhaid i ni gynnal diwydrwydd dyladwy priodol. Bydd lefel yr ymgysylltiad yn dibynnu ar y cynhyrchion/gwasanaethau rydych chi'n eu darparu.

Rydym yn aelod o Hellios FSQS, cymuned o fanciau a chymdeithasau adeiladu, sydd gyda'i gilydd yn diffinio'r set o gwestiynau diwydrwydd dyladwy sy'n ein helpu i barhau i gydymffurfio â rheoliadau'r Gwasanaethau Ariannol. Rydym yn disgwyl i bob cyflenwr newydd weithio gyda ni drwy gynllun Hellios FSQS. 

Polisi chwythu'r chwiban

Os oes gennych unrhyw bryderon difrifol am unrhyw agwedd ar ein gwaith, rhowch  wybod i ni drwy ddilyn ein proses chwythu'r chwiban. 

Polisïau cyflenwyr

Dysgwch sut rydym yn disgwyl i gyflenwyr gydymffurfio â'n polisïau.