Cyfrifon cynilo i blant
Yn y canllaw hwn
Pam agor cyfrif cynilo i blant?
Mae agor cyfrif cynilo i blant yn ffordd wych o addysgu plant am arian, cyflwyno arferion ariannol iach, a chynllunio ar gyfer eu dyfodol.
Gall agor cyfrif helpu i blant ddeall eu harian a'u cynilion. Gall rhieni a gwarcheidwaid ddechrau cael trafodaethau â'u plant am osod nodau, a phwysigrwydd cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Sut mae cyfrif cynilo i blant yn gweithio yn Principality?
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfrifon sy'n addas i blant. Gellir agor rhai gan warcheidwaid a rhai ymddiriedolaeth. Gall plentyn o 14 oed agor a rheoli pob un. Ar ôl ei agor, ni ellir newid y plentyn a enwir ar y cyfrif.
Cyfrifon Gwarcheidwaid
Mae cyfrifon gwarcheidwaid wedi'u dylunio ar gyfer pobl gyda. chyfrifoldeb rhiant dros blentyn. Mae'r gwarcheidwad yn agor cyfrif yn enw'r plentyn
- Gellir enwi hyd at ddau warcheidwad ar y cyfrif.
- Rydym yn cyfeirio unrhyw ohebiaeth am y cyfrif at y plentyn.
- Rhaid i warcheidwaid rhoi cydsyniad i godi unrhyw arian o'r cyfrif neu unrhyw newidiadau a wnaed iddo.
- Yn 16 oed, trosglwyddir y gallu i reoli'r cyrfif i'r plentyn yn awtomatig. Mae hyn yn golygu y bydd y plentyn yn gweithredu'r cyfrif ar ei ben ei hun.
- Gall gwarcheidwaid ddewis trosglwyddo'r gallu i reoli'r cyfrif ynghynt – o 14 oed.
Cyfrifon Ymddiriedolaeth
Mae cyfrifon ymddiriedolaeth wedi'u dylunio ar gyfer pawb sydd am gynilo ar gyfer plentyn. Gelwir yr oedolyn sy'n agor y cyfrif yn ymddiriedolwr. Gelwir y plentyn yn fuddiolwr. Gellir enwi hyd at bedwar ymddiriedolwr ar y cyfrif.
- Agorir cyfrifon yn enw'r ymddiriedolwr, gyda'r plentyn yn gysylltiedig â'r cyfrif.
- Rydym yn anfon unrhyw ohebiaeth am y cyfrif at yr ymddiriedolwr cyntaf a enwir.
- Mae angen i ymddiriedolwyr roi cydsyniad i godi unrhyw arian o'r cyfrif neu am unrhyw newidiadau a wneir iddo.
- Bydd yr ymddiriedolwr yn parhau i reoli'r cyfrif hyd nes iddo gael ei drosglwyddo i'r plentyn, fel arfer pan fydd y plentyn yn cyrraedd 18 oed.
- Gall ymddiriedolwyr dewis trosglwyddo'r gallu i reoli'r cyfrif ynghynt – o 14 oed.
Sut ydw i'n agor cyfrif cynilo i blant yn Principality?
Mae'n hawdd agor a rheoli cyfrifon i blant. Bydd angen i chi fynd i un o'n canghennau neu asiantaethau i agor y cyfrif. Ewch i'ch cangen agosaf neu trefnwch apwyntiad.
Roedd y wybodaeth yn y canllaw hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.
- Savings accounts
Cyfrifon cynilo i blant
Dechreuwch gynilo ar gyfer eu dyfodol gyda chyfrif cynilo Principality.