Beth yw ISA?
Yn y canllaw hwn
Mae Cyfrif Cynilo Unigol (ISA) yn fath o gyfrif cynilo sy’n gadael i chi ennill llog yn ddi-dreth. Mae hyn yn golygu eich bod yn cael cadw’r holl log rydych yn ei ennill, yn wahanol i rai cyfrifon cynilo eraill lle gallai treth fod yn berthnasol.
Cyflwynwyd ISAs ym 1999 i annog pobl i gynilo ar gyfer eu dyfodol. Maent yn dod gyda rhai budd-daliadau treth gwerthfawr a gallent eich helpu i adeiladu eich cynilion dros amser.
Sut mae ISA yn gweithio?
Bob blwyddyn dreth, (o 6 Ebrill - 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol), mae'r llywodraeth yn pennu lwfans ISA di-dreth. Ar gyfer y flwyddyn dreth 2024/25, y lwfans yw £20,000.
Mae hyn yn golygu y gallwch gynilo hyd at £20,000 mewn ISA heb dalu treth ar y llog a enillwch. Gallwch ddewis adneuo cyfandaliad, neu ychwanegu symiau llai drwy gydol y flwyddyn, yn dibynnu ar y math o ISA a ddewiswch.
Beth yw manteision ISA?
- Cynilion di-dreth: Cadwch 100% o’r llog a enillwch, heb dalu treth.
- Opsiynau hyblyg: Dewiswch gyfraddau sefydlog neu amrywiol, gydag opsiynau tynnu'n ôl i ddiwallu'ch anghenion.
- Trosgwlyddadwy: Gallwch symud eich cynilion rhwng darparwyr (er y gall rhai cyfyngiadau fod yn berthnasol)
- Nifer y cyfrifon ISA - Gallwch agor mwy nag un ISA. Gwnewch yn siŵr nad yw cyfanswm eich cyfraniadau yn fwy na £20,000 bob blwyddyn ar draws pob cyfrif.
Pa fathau o ISAs sydd ar gael?
Mae pedwar prif fath o ISA:
- ISA Arian Parod: Cyfrif cynilo di-dreth. (Dyma beth rydym yn ei gynnig yn Principality).
- ISA Stociau a Chyfrannau: Buddsoddi eich arian mewn pethau fel stociau a bondiau. (Mae rhywfaint o risg ynghlwm).
- ISA Gydol Oes: Wedi'i gynllunio i'ch helpu i gynilo ar gyfer eich cartref cyntaf neu ymddeoliad.
- ISA Cyllid Arloesol: Buddsodi mewn benthyca rhwng cymheiriaid. (Opsiwn risg uwch).
Yn Principality, rydym yn cynnig ISAs arian parod, ac mae dau fath:
ISA arian parod cyfradd sefydlog:
- Ennill cyfradd llog sefydlog am amser penodol.
- Ni chaniateir codi arian yn ystod y tymor.
- Gall cau neu drosglwyddo'n gynnar arwain at golli llog
ISA arian parod cyfradd amrywiol:
- Gall eich cyfradd llog newid dros amser
- Gallwch godi arian a rhoi arian yn ei le o fewn yr un flwyddyn dreth heb iddo effeithio ar eich lwfans ISA blynyddol.
Cyfyngiadau ar gyfrannu
Ar gyfer y flwyddyn 2024/25, gallwch gyfrannu cyfanswm o hyd at £20,000 ar draws sawl ISA.
Gallwch rannu eich lwfans ar draws gwahanol fathau o gyfrifon ISA, hyd yn oed os ydynt gyda gwahanol fanciau neu gymdeithasau adeiladu. Yn Principality, gallwch ond talu i un ISA arian parod fesul blwyddyn dreth.
Os ewch y tu hwnt i'ch lwfans ISA blynyddol, ni fyddwch yn gallu cadw’r swm sydd dros ben mewn ISA ac ennill llog yn ddi-dreth. Edrychwch ar eich cyfraniadau bob amser i aros o fewn y terfynau.
Allwch chi gael mynediad at eich arian?
Mae hyn yn dibynnu ar y math o ISA a ddewiswch. Cyn i chi ddewis ISA, dylech feddwl pa mor aml yr hoffech gael mynediad at eich arian. Mae cyfrifon ISA arian parod Principality yn cynnig amrywiaeth o opsiynau. Mae rhai o'n ISAs yn cynnig codi arian heb gyfyngiad, tra bod gan eraill derfynau codi arian.
A yw ISA yn briodol i chi?
Gallai ISA fod yn addas i chi:
- Os ydych yn chwilio am ffordd o gynilo sy'n effeithlon o ran treth.
- Os ydych eisiau ennill llog di-dreth heb boeni am dalu treth ar gynilion.
- Os yw'n well gennych opsiwn cynilo hirdymor gyda chyfraniadau hyblyg.
Gall deall sut mae ISAs yn gweithio eich helpu i wneud dewis hyderus ynghylch sut i gynilo ar gyfer eich dyfodol.
- ISAs
Take a look at our cash ISA accounts
Ready to start saving? Browse all our cash ISA accounts now.