Ymchwil cwsmeriaid
Ymchwil cwsmeriaid ar ran Cymdeithas Adeiladu’r Principality
Mae’n bwysig i ni fod eich barn yn sail i’r ffordd yr ydym yn rhedeg ein busnes, a’r penderfyniadau a wnawn. Felly, efallai y cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwil i'r farchnad ar ein rhan.
Nid oes unrhyw rwymedigaeth i gymryd rhan mewn ymchwil i'r farchnad. Os byddwch yn cytuno i gymryd rhan, byddwn yn defnyddio eich ymatebion i wella ein prosesau, ac i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau sy'n adlewyrchu eich anghenion.
Mae ein polisi preifatrwydd yn rhoi manylion llawn am sut rydym yn rheoli unrhyw wybodaeth a gasglwn amdanoch ac oddi wrthych fel rhan o’n gweithgarwch ymchwil.
Gweithio gydag asiantaethau ymchwil
Cynhelir rhai o'n prosiectau ymchwil gan asiantaethau ymchwil i'r farchnad annibynnol.
- Mae’r holl asiantaethau ymchwil sy’n gweithio gyda Principality wedi mynd drwy broses gaffael drylwyr a byddant yn gweithredu i safonau uchaf y diwydiant.
- Bydd pob un ohonynt yn tanysgrifio i God Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad.
- Mae’r Cod yn pwysleisio pwysigrwydd cyfrinachedd ac anhysbysrwydd i gyfranogwyr ymchwil fel nad yw’r safbwyntiau/barn a roddir yn ystod ymchwil byth yn cael eu hadrodd mewn ffordd sy’n caniatáu nodi pwy yw unigolion, oni bai eu bod wedi rhoi caniatâd penodol i ni.
- Mae Cod Ymddygiad MRS hefyd yn gosod rheolau llym ynghylch y defnydd o ddata personol y gall asiantaethau gael mynediad ato gan eu cleientiaid.
Optio allan o ymchwil i'r farchnad
Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ein bod yn cynnal ymchwil mewn ffordd nad yw'n ymwthiol nac yn peri pryder i'n cwsmeriaid. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n cymryd rhan yn ein hymchwil yn dweud wrthym eu bod yn mwynhau’r broses ac yn gwerthfawrogi cael cyfle i roi eu barn.
Rydym yn sylweddoli efallai na fydd rhai aelodau am i ni gysylltu â nhw ar gyfer ymchwil i'r farchnad. Felly, gallwch optio allan – ac ni fyddwn byth yn cysylltu â chi at y diben hwn. Gallwch optio allan drwy:
- E-bostio eich manylion i research@principality.co.uk
- Rhoi gwybod i ni yn eich cangen leol
Byddwn yn anelu at brosesu eich cais o fewn 10 diwrnod gwaith er mwyn sicrhau bod eich manylion yn cael eu tynnu oddi ar unrhyw samplau ymchwil yn y dyfodol.
Os cysylltwyd â chi ar gyfer ymchwil a bod gennych gwestiynau neu bryderon penodol am y broses honno, e-bostiwch research@principality.co.uk. Bydd un o'n rheolwyr ymchwil yn hapus i ymateb. Fel arall, bydd eich cangen leol yn gallu ateb unrhyw ymholiadau.