Skip to content

Tyler yn ennill blaendal ar gyfer tŷ

Tyler Hatfield holding a check for £24,207 from Principality Building Society

Yn yr erthygl hon

Tyler yn ennill blaendal ar gyfer tŷ

Mae dyn ifanc o Gaerdydd sy'n gobeithio prynu cartref am y tro cyntaf wedi ennill blaendal gyda chymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, gan roi cyfle iddo fod y cyntaf yn ei deulu i fod yn berchen ar dŷ.

Mae Tyler Hatfield, 26 oed, o’r Tyllgoed, yn cael mwy na £24,000 tuag at ei gartref cyntaf, sydd werth ychydig yn fwy na'r blaendal o 10% cyfartalog ar hyn o bryd, sef £239,000 yng Nghymru, fel y nodwyd ym Mynegai Prisiau Tai diweddaraf Cymdeithas Adeiladu Principality.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth wrth i Principality noddi Hanner Marathon Caerdydd mewn ymgais i helpu prynwyr tro cyntaf I fod ‘gam ar y blaen’ fel rhan o bartneriaeth y digwyddiad. Mae’r gymdeithas adeiladu wedi cyhoeddi’n ddiweddar y bydd yn dychwelyd fel prif noddwr ar gyfer hanner marathon 2024.

Mae Tyler, yr enillydd, yn gweithio fel peintiwr ac addurnwr gyda'i dad, Ian, yng Nghaerdydd, ac yn dal i fyw gartref gyda'i rieni, felly mae'r help llaw i'w gael i gamu ar yr ysgol eiddo yn gyfle i'w groesawu.

Meddyliau Tyler am ennill

Dywedodd Tyler: “Bydd bod yn berchen ar fy nhŷ fy hun yn gwireddu breuddwyd rydw i wedi bod yn ceisio cynilo amdani dros y pum mlynedd diwethaf ers gweithio yn y diwydiant, ond mae wedi bod yn anodd iawn.
 

"Mae ennill yr arian hwn i’w ddefnyddio fel blaendal ar dŷ yn rhyddhad mawr ac wedi atal llawer iawn o'r straen, gan wybod na fydd yn rhaid i mi boeni am gynilo pob punt y gallaf bob wythnos. Ac oherwydd fy mod yn byw gyda fy rhieni hefyd, nid buddugoliaeth i mi yn unig yw hyn, ond mae’n hwb i fy nheulu – gallan nhw gael yr ystafell sbâr honno y maen nhw wedi breuddwydio amdani erioed fel y gall teulu o bell ddod i aros. Rwy'n gobeithio prynu gyda fy nghariad, Beth, felly mae'n gyffrous iawn gallu edrych ymlaen at ein cartref cyntaf gyda'n gilydd.”
 

Tina, mam Tyler, sy'n esbonio pam y bydd hwn yn gyfle fydd yn newid ei fywyd: “Mae tad Tyler a minnau yn rhentu ein tŷ ni, felly Tyler fydd y cyntaf yn ein teulu i gamu ar yr ysgol eiddo, ac rydym mor falch ohono am hynny. Mae wedi bod yn gweithio’n galed i geisio cynilo am dŷ ers iddo adael y coleg, ond roedd bob amser yn mynd i gymryd blynyddoedd ar ei gyflog iddo allu cynilo digon. Dim ond dwy ystafell wely sydd yn ein tŷ ni, ac ar hyn o bryd does dim lle gennym ni i deuluo sy’n byw y tu allan i Gaerdydd ddod i aros, felly er y byddwn ni'n gweld eisiau Tyler yn y tŷ – er nad wyf yn meddwl ei fod eisiau symud yn rhy bell – mae’n golygu y gallwn wahodd aelodau o’r teulu i ymweld â ni, a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr.” 

Mae Tina yn parhau: “Mae eleni hefyd wedi bod yn anodd iawn i ni fel teulu, collais fy mam yn gynharach eleni a throdd ein bywydau wyneb i waered. Y fuddugoliaeth hon i Tyler yw’r goleuni ym mhen draw'r twnnel, mae’n gyfle iddo symud ymlaen a thyfu yn ei gartref ei hun.” 

Sut mae Principality yn helpu prynwyr tro cyntaf

Mae gan Gymdeithas Adeiladu Principality amrywiaeth o ffyrdd o helpu i gefnogi prynwyr tro cyntaf i gamu ar yr ysgol eiddo. Mae ap Camau Cartref Cyntaf yn ganllaw poced rhad ac am ddim ar gyfer prynu eich cartref cyntaf, gan helpu i wneud cyllidebu, cynllunio a chynilo yn fwy dealladwy.

Dywedodd Vicky Wales, Prif Swyddog Cwsmeriaid Cymdeithas Adeiladu Principality: “Rydym yn deall bod yr hinsawdd ariannol heriol bresennol yn golygu ei fod yn arbennig o anodd i brynwyr tro cyntaf, a dyna pam rydym ni'n rhoi cymaint o bwyslais arno fel busnes. Roeddem mor falch o allu cynnal y gystadleuaeth hon a chynnig rhywfaint o gyngor a chefnogaeth i'r rhai sy'n ystyried camu ar yr ysgol eiddo. Mae Tyler yn enillydd haeddiannol a diymhongar iawn o’r wobr hon, felly rydym wrth ein bodd ein bod yn gallu ei helpu gyda’r pryniant mawr cyntaf yn ei fywyd. Dymunwn bob lwc i Tyler ac edrychwn ymlaen at ei weld yn dod o hyd i’w gartref cyntaf perffaith.” 

An illustrated Principality logo. (Welsh)

Lawrlwythwch ein ap am ddim

Fe wnawn ni eich tywys drwy gamau prynu cartref gydag ap Camau Cartref Cyntaf.