Skip to content
Log in

Canlyniadau Hanner Blwyddyn 2024

Managing director of the Principality Building Society

Yn yr erthygl hon

Cymdeithas Adeiladu Principality yn cyhoeddi twf cryf a buddsoddiad parhaus mewn Aelodau a chymunedau

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi adrodd ei chanlyniadau ariannol ar gyfer hanner cyntaf 2024, gan ddangos twf cryf parhaus a ysgogwyd gan ddarparu gwerth da i aelodau yn barhaus, darparu cymorth ychwanegol i gwsmeriaid a chymunedau, a darparu perfformiad ariannol cryf dan amodau macro-economeg heriol.

 

Dywedodd Julie-Ann Haines, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Adeiladu Principality: “Mae chwe mis cyntaf 2024 wedi bod yn gyfnod heriol arall i'n haelodau, ein cydweithwyr a'n cymunedau wrth i'r argyfwng costau byw barhau i wasgu arnynt ac effeithio ar sefyllfaoedd ariannol pobl.

 

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi perfformiad cryf ar gyfer hanner cynta'r flwyddyn wrth i ni barhau i gefnogi ein haelodau a'n cymunedau drwy'r cyfnodau economaidd cythryblus, gan adeiladu ar ddwy flynedd o gynnydd tuag at ein strategaeth yn erbyn cefndir anodd o bwysau macro-economeg; chwyddiant uwch ac ansicrwydd gwleidyddol.

 

Mae Principality yn sefydliad a arweinir gan y dibenion, sy'n eiddo i'r aelodau. Mae ein huchelgais yw cael effaith y tu hwnt i'n graddfa a thyfu'r busnes yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn gwneud cynnydd da. Rydym wedi cyflawni twf morgeisi a chynilion yn y chwe mis diwethaf, wrth ddod yn fwy effeithlon drwy wella profiadau cwsmeriaid ar-lein ac yn ein canghennau.

 

Mae ein model busnes cynaliadwy sy'n eiddo i'r aelodau, ein dull cyfrifol o fenthyca a rheoli risg cyfraddau llog ceidwadol wedi ein galluogi i daro cydbwysedd rhwng anghenion cynilwyr a benthycwyr, gan hefyd gadw'r Gymdeithas yn saff ac yn ddiogel ar gyfer y tymor hir. Dyna pam rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gymunedau lleol yng Nghymru, nid yn unig drwy gael y nifer mwyaf o ganghennau ar y stryd fawr o blith unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu yng Nghymru, ond hefyd drwy hyrwyddo mynediad i arian, darparu cyfraddau llog da, gwirfoddoli, ymgysylltu â'r gymuned a nawdd.”

 

Cartrefi Gwell

Dywedodd Julie-Ann Haines: “Yn greiddiol i'n diben mae ceisio creu marchnad dai mwy hygyrch, lle mae mwy o gartrefi fforddiadwy ac mae'n haws i brynwyr tro cyntaf ddringo'r ysgol eiddo.

 

Yn ystod hanner cynta'r flwyddyn, rydym wedi helpu dros 3,576 (Mehefin 2023: 3,304) o brynwyr tro cyntaf i brynu eu cartrefi cyntaf, ac roedd ein benthyciad morgais manwerthu net yn £0.6bn (Mehefin 2023: £0.5bn). Mae hyn yn sicrhau ein bod ymhell ar ein ffordd i gyrraedd ein huchelgais o gefnogi dros 15,000 o gwsmeriaid i brynu eu cartref cyntaf erbyn 2030.”

 

Arweiniodd y cymorth ardderchog y mae Principality wedi'i roi i'w haelodau at gael ei phleidleisio fel y Gymdeithas Adeiladu Orau ar gyfer Gwasanaeth Cwsmeriaid gan What Mortgage am y seithfed flwyddyn yn olynol, yn ogystal â'r Benthyciwr Canolig Gorau yng ngwobrau Legal & General Mortgage Club a gwobr Best Business Outcome Experian.

 

Mae cam olaf datblygiad y Felin gwerth £100m yn Nhrelái, Caerdydd, ar fin cael ei gwblhau. Mae'r prosiect hwn, sy'n ymestyn dros saith mlynedd, wedi adeiladu 800 o gartrefi, y mae hanner ohonynt yn cynnig rhenti gostyngol, canolraddol, neu gymdeithasol. Mae tîm Benthyca Masnachol Principality yn cefnogi 18 o'r 33 o gymdeithasau tai yng Nghymru, gan ddyfarnu £25m yn fwyaf diweddar i Hafod yng Nghaerdydd ar gyfer 300 o gartrefi fforddiadwy dros bum mlynedd, sef rhan o £80m mewn ymrwymiadau ar gyfer 2024, yn ogystal â benthyciad £50m i Pobl yn 2023.

Dyfodol Diogel - Cymdeithas o Gynilwyr

Parhaodd Julie-Ann: “Wrth i'r argyfwng costau byw barhau, mae mwy o bobl yn cael trafferth ariannol. Y bobl hynny ar yr incwm isaf sydd wedi'u heffeithio fwyaf ac sydd â'r lleiaf o gynilion. Rydym am ddarparu ein haelodau gyda chyfraddau llog cystadleuol, fel y gallwn greu cymdeithas o gynilwyr cydnerth. Mae perfformiad cynilion wedi bod yn gryf; rydym wedi cynyddu nifer y cynilwyr sydd gennym i fwy na 427,085 gyda thros 72,519 o gwsmeriaid yn cynilo'n rheolaidd, gyda chynilion drwy ein canghennau yn codi 5%.

 

Rydym yn parhau i fuddsoddi profiad gwell i gwsmeriaid ni waeth pa sianel y mae cwsmeriaid yn ei ddewis, ac rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol i'n taith cynilion digidol a bydd ein gwefan yn lansio yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

Fel cymdeithas adeiladu a chydfuddiannol, ein haelodau sy'n berchen arnom, ni cyfranddalwyr, felly rwy'n falch o ddweud ein bod wedi talu cynilwyr 4.00% ar gyfartaledd, yn erbyn cyfartaledd y farchnad o 3.32%* ar gyfer pedwar mis cyntaf 2024, gan arwain at yr hyn sy'n gyfwerth â £21m ychwanegol (0.68%) mewn llog a dalwyd i'n haelodau sy'n cynilo.”

*Ffynhonnell: Cronfa Ddata Cyfrifon Cyfredol a Chynilion (CSDB) CACI, Cyfradd Llog Cyfartalog Pwysoledig ar gyfer Ionawr 2024 - Ebrill 2024.

Cymdeithas Decach - gwell effaith gymdeithasol i gymunedau

Parhaodd Julie-Anne: “Mae gan Principality yr uchelgais i neilltuo hyd at 3% o'i helw flynyddol at ddibenion cymdeithasol, ac fel rhan o'r ymrwymiad hwnnw, mae'n falch gen i ddweud ein bod yn bwriadu cyhoeddi pedwerydd iteriad o'n Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol yn ail hanner y flwyddyn, a fydd yn cefnogi grwpiau cymunedau lleol yn ein bro, gyda chyllid o fwy na £0.5m.  Mae'r cronfeydd hyn yn creu effaith mewn cymunedau gan sicrhau bod y rhai dan yr anfantais fwyaf yn cael mwy o gyfleoedd.

 

Gwnaethom hefyd gefnogi addysg ariannol ar gyfer 24,567 o blant ysgol a phobl ifanc, a rhoi £121,248 i'n partneriaid elusennol hosbisau plant Tŷ Hafan a Hope House Tŷ Gobaith drwy ddigwyddiadau codi arian cydweithwyr ac aelodau.

 

Mae ymrwymiad y Gymdeithas i amrywiaeth a chynhwysiant yn parhau i fod yn amlwg, ac rwyf wrth fy modd bod Principality wedi ennill Gwobr Cwmni Gwasanaethau Ariannol y Flwyddyn – y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth, o ganlyniad i hyn.

 

Mae ein rhwydweithiau rhagorol o gydweithwyr wedi cymryd camau breision wrth helpu'r Gymdeithas ar hyd y daith hon. Un enghraifft yw sut y gwnaeth y rhwydwaith Pride groesawu busnesau bach, cydweithwyr a'u ffrindiau a theulu yn Nhŷ Principality cyn 25ain gorymdaith flynyddol PRIDE Cymru, fy bu'r Gymdeithas yn brif noddwr iddi am yr ail flwyddyn yn olynol.”

Perfformiad Ariannol Cryf

Mae twf llyfr morgeisi Principality o £0.6bn wedi dod â balans morgeisi'r Gymdeithas i £9.9bn (Rhagfyr 2023: £9.3bn). Mae balans cynilion hefyd wedi tyfu £0.8bn i £9.9bn (Rhagfyr 2023: £9.1bn). Mae hyn yn dod â chyfanswm asedau Principality i £13.5bn, sef £1bn yn uwch na Rhagfyr 2023 (£12.5bn).

 

Yn dilyn gostyngiad disgwyliedig yn yr Elw Llog Net i 1.21% (Rhagfyr 2023: 1.52%), roedd gostyngiad cyfatebol yn yr Elw Sylfaenol i £20.1m (Mehefin2023: £39.1m), tra bod elw statudol cyn treth yn £22.4m (Mehefin 2023: £41.0m).

 

Ychwanegodd Julie-Ann: “Mae buddsoddiad sylweddol ar y gweill i sicrhau bod y Gymdeithas yn addas ar gyfer y dyfodol, gyda'n sefyllfaoedd cyfalaf a hylifedd cryf yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer twf a buddsoddiad yn y dyfodol, i gyd er budd yr aelodau wrth i ni geisio ei gwneud yn haws iddynt ddelio â ni.

 

Mae darparu cartref saff a diogel i gynilion ein Haelodau yn hanfodol i lwyddiant parhaus ein busnes, yn union fel y bu ers 164 o flynyddoedd.”

Rhagolwg

Gwnaeth Julie-Ann gloi gan ddweud: “Mae byw yn y cartrefi rydym yn eu dymuno a chynilo ar gyfer y dyfodol rydym yn ei haeddu yn anoddach nag erioed o'r blaen. Fodd bynnag, wrth i bwysau chwyddiant ddechrau lleddfu ac wrth i ni ddisgwyl amgylchedd gwleidyddol mwy sefydlog, mae'r rhagolwg yn dod yn fwy cadarnhaol. Hyderaf fod Principality mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ein cryfderau a chyrraedd ein huchelgais i gael effaith y tu hwnt i'n graddfa.

 

Mae ein gweledigaeth hirdymor yn parhau i fod yn gadarn: helpu i adeiladu cymdeithas o gynilwyr lle mae gan bawb le i alw'n gartref. Mae ein perfformiad ariannol yn golygu y gallwn barhau i fuddsoddi i ddiogelu perthnasedd hirdymor y Gymdeithas i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr a'n cymunedau yn well.”

Uchafbwyntiau Perfformiad Allweddol

  • Cyfanswm asedau: £13.5bn (Rhagfyr 2023: £12.5bn)
  • Balansau morgais manwerthu: £9.9bn (Rhagfyr 2023: £9.3bn)
  • Balansau cynilion: £9.9bn (Rhagfyr 2023: £9.1bn)
  • Elw statudol cyn treth: £22.4m (Mehefin 2023: £41.0m)
  • Elw sylfaenol cyn treth: £20.1m (Mehefin 2023: £39.1m)
  • Cymhareb Ecwiti Cyffredin Haen 1: 19.65% (Rhagfyr 2023 21.77%)
  • Elw llog net: 1.21% (Rhagfyr 2023: 1.52%)
  • Cymhareb Costau Rheoli Statudol: 0.91% (Rhagfyr 2023 0.99%)

Darllenwch ein Hadroddiad Canlyniadau Interim yn llawn

 

An illustrated Principality logo. (Welsh)

Ewch i'r ystafell newyddion

 Y wybodaeth ddiweddaraf am y gymdeithas.