Cynnydd cryfaf mewn 2 flynedd ym mhrisiau tai yng Nghymru
Yn yr erthygl hon
Mae hyder prynwyr yn tyfu o hyd
Cynyddodd pris cyfartalog cartref a werthwyd yng Nghymru i £238,413 yn chwarter cyntaf 2025, sef cynnydd o 2.2% ar y chwarter blaenorol a 4.0% yn uwch na’r un cyfnod y llynedd.
Mae’r ffigurau wedi’u rhyddhau gan Gymdeithas Adeiladu Principality ym Mynegai Prisiau Tai Cymru ar gyfer Ch1 2025 (Ionawr - Mawrth), sy’n dangos y cynnydd a’r cwymp ym mhrisiau tai ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Er bod heriau fforddiadwyedd yn parhau, mae’r cynnydd cyson mewn prisiau a nifer y trafodion – a gyrhaeddodd 10,000 yn Ch1 (cynnydd o 20% ar y llynedd) – yn awgrymu bod hyder prynwyr yn tyfu o hyd, er bod aelwydydd yn parhau i ymdopi â phwysau costau byw, mewn amgylchedd cyfraddau uwch ac ansicrwydd economaidd byd-eang.
Darlun cymysg ar lefel ranbarthol
Y tu allan i'r darlun cenedlaethol o gynnydd cymedrol mewn prisiau, mae darlun cymysg ar lefel ranbarthol.
Gwelodd tri awdurdod yn Ne Cymru brisiau tai yn cyrraedd y lefelau uchaf erioed, gyda Phen-y-bont ar Ogwr yn gweld y newid blynyddol uchaf o unrhyw awdurdod ar 11%, gyda Blaenau Gwent yn agos ar ei ôl gan nodi cynnydd o 6.8% a Chaerffili gyda 6.6%.
Gwelodd ardaloedd eraill, gan gynnwys Ceredigion, ostyngiad mewn prisiau yn Ch1, gan ostwng 10.1% o chwarter olaf 2024. Yn y cyfamser mae’r duedd o'r naill flwyddyn i'r llall ar gyfer yr un rhanbarth yn awgrymu ychydig dros 3% o ostyngiad, gyda rhai arbenigwyr yn awgrymu bod hyn oherwydd newidiadau polisi fel addasiadau Llywodraeth Cymru i drethi ail gartrefi.
Yn gyffredinol, mae ymchwil Cymdeithas Adeiladu Principality, sy’n seiliedig ar ddata Cofrestrfa Tir EF, yn datgelu bod gostyngiadau prisiau mewn ardaloedd rhanbarthol wedi lleddfu dros y tri chwarter diwethaf o gymharu â’r un cyfnod y llynedd, gan gynnig rhai arwyddion o sefydlogrwydd i brynwyr a gwerthwyr mewn marchnad sy’n newid.
Dechrau cadarnhaol i 2025
Wrth siarad am Fynegai Prisiau Tai Ch1, dywedodd Iain Mansfield, Prif Swyddog Ariannol Cymdeithas Adeiladu Principality:
“Mae’r farchnad dai yng Nghymru wedi cael dechrau cadarnhaol i 2025, gyda phrisiau’n codi o'r naill chwarter i'r llall ar eu cyflymder cyflymaf ers dros ddwy flynedd.
Er gwaethaf y cefndir economaidd heriol, rydym yn gweld twf o'r naill flwyddyn i'r llall mewn trafodion, wedi'i ysgogi gan heriau cyflenwad a chyfraddau sy'n gostwng. Yn y cyfamser, mae fforddiadwyedd yn parhau i fod yn ffactor allweddol sy'n llywio tirwedd y farchnad.”
Dirywiad mewn adeiladu tai
Gallai’r problemau parhaus o ran cyflenwadau fod yn sbardun allweddol i’r twf trafodion o'r naill flwyddyn i'r llall gyda’r 25 mlynedd diwethaf wedi gweld dirywiad nodedig mewn adeiladu tai yng Nghymru.
Mae newidiadau polisi sylweddol fel ymestyn cynllun Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru, addasiadau treth ail gartrefi, a chynlluniau i adeiladu mwy o dai fforddiadwy yn anelu at frwydro yn erbyn yr her hon a ffrwyno gweithgarwch buddsoddwyr.
Mae tai yn uchel ar yr agenda
Mae Iain yn parhau: “Ar draws San Steffan a Chymru, mae tai yn uchel ar yr agenda. Wrth edrych ymlaen, mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod wedi ymrwymo’n gyhoeddus i ddiwygiadau cynllunio helaeth – gan osod targed uchelgeisiol i adeiladu 1.5 miliwn o gartrefi dros y 5 mlynedd nesaf, sy’n cynrychioli newid sylweddol yn nhirwedd tai’r DU.
“Mae hyn, ynghyd ag estyniad Cymorth i Brynu Cymru Llywodraeth Cymru a buddsoddiad ychwanegol o £10 miliwn a ddyrannwyd i roi hwb i gynlluniau tai ledled Cymru yn arwydd clir bod llunwyr polisi yn cydnabod pwysigrwydd tai i deuluoedd ac unigolion ledled y wlad.
Atebion tai cynaliadwy
“Er gwaethaf pwysau allanol megis costau byw, chwyddiant, a phwysau economaidd byd-eang, mae’r farchnad dai yng Nghymru yn symud ymlaen i gyfeiriad cadarnhaol, gyda mwy o hyder ymhlith defnyddwyr a meysydd o berfformiad rhanbarthol cryf.
Mae Cymdeithas Adeiladu Principality yn ymroddedig i weithio gyda chymdeithasau tai a datblygwyr eraill i ddarparu atebion tai cynaliadwy i gymunedau ledled Cymru fel rhan o’r ateb; darparu cartrefi fforddiadwy o safon.”
Nod Cymdeithas Adeiladu Principality, sefydliad cydfuddiannol sy’n eiddo i Aelodau, ac nid cyfranddalwyr, yw cefnogi ac adeiladu cymdeithas o gynilwyr lle mae gan bawb le i’w alw’n gartref. Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein Mynedai Prisiau Tai Cymru.
- Newyddion y gymdeithas