Skip to content

Pris cyfartalog tai yng Nghymru yn parhau i ostwng

A young couple is looking at a large Victorian home. They are linking arms.

Yn yr erthygl hon

Prisiau tai yn parhau i ostwng

Gostyngodd pris cyfartalog cartref yng Nghymru i £229,263 yn chwarter cyntaf 2024, sy’n golygu mai hwn yw’r pumed chwarter yn olynol i brisiau ostwng yng Nghymru gan ddod â phris cyfartalog tai bron i £20,000 yn is na’i uchafbwynt o £249,000 ar ddiwedd 2022.
 

Mae’r ffigurau wedi’u rhyddhau gan Fynegai Prisiau Tai Cymru Ch1 2024 (Ionawr-Mawrth) Cymdeithas Adeiladu Principality, sy’n dangos y cynnydd a’r gostyngiad ym mhrisiau tai ym mhob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mynegai Prisiau Tai Cymru Principality

Mae adroddiad Principality yn dangos bod pris cyfartalog tai yng Nghymru wedi gostwng 2.1% ers y chwarter diwethaf ac wedi gostwng 6.5% erbyn hyn, o gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
 

Er bod prisiau nominal yn parhau i fod 23% yn uwch na phum mlynedd yn ôl, mae hyn yn cyfateb yn fras i’r cynnydd mewn prisiau defnyddwyr dros y cyfnod, sy’n golygu bod prisiau eiddo mewn termau real wedi dychwelyd i'r sefyllfa ar ddechrau 2019.
 

Dywedodd Shaun Middleton, Pennaeth Dosbarthu Cymdeithas Adeiladu Principality: “Mae’r duedd ar i lawr o ran prisiau tai wedi parhau am y pumed chwarter yn olynol yng Nghymru. Mae pwysau economaidd, ynghyd â chost uwch morgeisi wedi golygu bod fforddiadwyedd yn parhau i fod yn broblem i lawer o brynwyr, gan roi pwysau diamheuol ar y farchnad dai yng Nghymru.
 

“Mae’r darlun ledled Cymru yn dangos bod awdurdodau lleol wedi bod yn adrodd am ostyngiadau mewn prisiau, yn hytrach na chynnydd, yn bennaf, gan drosi’n ostyngiad arall ym mhrisiau tai o'r naill flwyddyn i'r llall.” 

Prisiau tai mewn awdurdodau lleol

O gymharu â blwyddyn ynghynt, dim ond pedwar o’r 22 o awdurdodau lleol a nododd gynnydd mewn prisiau eiddo, er bod y rhan fwyaf o’r cynydd hwnnw yn nominal, aeth Sir y Fflint yn groes i’r duedd drwy nodi cynnydd dau ddigid sef 12%.
 

Gwelodd pum awdurdod lleol – Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Merthyr Tudful, Powys, a Bro Morgannwg – ostyngiad mewn prisiau dau ddigid rhwng 10% a 16% o gymharu â’r un cyfnod y flwyddyn flaenorol, gyda Bro Morgannwg yn nodi'r gostyngiad mwyaf o 15.7%.
 

Roedd ychydig o dan 8,400 o drafodion yng Nghymru yn chwarter cyntaf 2024, sef 15% yn llai na chwarter olaf 2023. Adlewyrchir y duedd ar i lawr hon ar draws gweddill y DU, gyda phwysau economaidd ehangach yn wynebu’r farchnad dai yn gweithredu fel rhwystr mawr ar alw a lefelau gweithgarwch yn ystod y chwarter. Ar gyfer Cymru, mae trafodiadau gwerthiannau chwarterol wedi gostwng yn barhaus o'r naill flwyddyn i'r llall ers diwedd 2021.
 

Er bod pob math o eiddo yn parhau i brofi llai o werthiannau, tai sengl yw'r rhai sydd bellaf o'u hanterth mewn termau cymharol bellach, gan ddangos gostyngiad yn y galw am eiddo mwy, yn ogystal â phrisiau.

Gair gan ein Pennaeth Dosbarthu

Parhaodd Shaun: “Er gwaethaf yr hyn sydd wedi nodi amodau mwyaf heriol y farchnad dai ers yr Argyfwng Ariannol Byd-eang yn 2008, mae’r newyddion diweddaraf bod chwyddiant yn parhau i ostwng – er yn arafach na’r disgwyl – yn awgrymu y gallai’r farchnad dai yng Nghymru weld arwyddion mwy cadarnhaol cyn bo hir. Mae llawer o ddadansoddwyr economaidd hefyd wedi rhagweld bod cyfradd sylfaenol Banc Lloegr wedi cyrraedd uchafbwynt o 5.25 ac y bydd yn gostwng eleni. Mae'r rhagdybiaeth hon yn ysgogi gwell cytundebau morgais ac yn hwyluso fforddiadwyedd tai.

“Mae hyder defnyddwyr hefyd yn gwella, ynghyd â thwf cyflogau, wrth i'r galw cynyddol am dai gynyddu. Wrth edrych ymlaen, mae’n bosibl iawn y bydd digwyddiad cyllidol arall gan Lywodraeth y DU, ond o leiaf Etholiad Cyffredinol ar y gorwel, a Llywodraeth Cymru sydd newydd ei ffurfio yng Nghymru gyda mandad i fynd i’r afael â thai fforddiadwy. Ynghyd â’n dirnadaeth ni, mae hyn yn awgrymu y gallai’r chwarter hwn gynrychioli’r pwynt isel ar gyfer prisiau tai yng Nghymru, y disgwyliwn ei godi wrth i fforddiadwyedd gynyddu.” 

An illustrated Principality logo. (Welsh)

Ewch i'r ystafell newyddion

 Y wybodaeth ddiweddaraf am y gymdeithas.