Skip to content

Partneriaid The Mill yn dathlu cannoedd o gartrefi fforddiadwy o safon yng Nghaerdydd

Partners of The Mill celebration posing for a photo at The Mill celebration event

Yn yr erthygl hon

Dathlu cwblhau The Mill

Daeth Cymdeithas Adeiladu Principality a phartneriaid o gymdeithasau tai, datblygwyr a Llywodraeth Cymru at ei gilydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i ddathlu cwblhau datblygiad blaenllaw a ddarparodd 800 o gartrefi o safon ym mhrifddinas Cymru.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Chymdeithas Adeiladu Principality, Tirion Homes a Lovell Homes yn nodi cwblhau The Mill yng ngorllewin Caerdydd. Mae’r datblygiad tai gwerth £150m, sydd wedi ymestyn dros 10 mlynedd ers i’r cam cyntaf ddechrau, wedi’i ariannu gan Principality Masnachol, cangen fenthyca cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, a’i gyflawni mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Tirion Homes, Lovell Homes a Chymdeithas Tai Cadwyn.

Roedd cynrychiolwyr o Gymdeithas Tai Cadwyn (Grŵp Cadarn), Llywodraeth Cymru, Aelodau’r Senedd, M&G Investment, Cartrefi Cymunedol Cymru yn bresennol yn y digwyddiad dathlu, a oedd hefyd yn cynnwys prif araith gan Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai.

Mwy am The Mill

Ar safle melin bapur Arjo Wiggins gynt, adeiladwyd hanner yr 800 o gartrefi yn benodol ar gyfer rhent fforddiadwy drwy Tirion Homes, gan gynnwys 75 a oedd ar gael fel tai cymdeithasol. Gwerthwyd cyfanswm o 358 eiddo ar y farchnad agored gan Lovell Homes.

Mae’r prosiect nodedig wedi trawsnewid yr hyn a oedd yn safle segur, llygredig yn gymuned newydd gynaliadwy i Gaerdydd.

Dechreuodd y bartneriaeth yn 2011, ar ôl i’r tir gael ei werthu i bartneriaid a dechreuodd Llywodraeth Cymru ar waith adfer helaeth i wneud y tir yn addas i fyw arno. Dechreuodd cam cyntaf y datblygiad ym mis Ionawr 2017 a cwblhawys y cam olaf ar ddiwedd 2024.

Roedd gofynion deddfwriaethol yn golygu bod angen i 25% o’r safle fod yn fforddiadwy – ond cyflawnodd y cynllun ddwywaith y swm hwnnw, gyda 75 o unedau tai cymdeithasol, 125 o renti canolradd a 200 o renti gostyngol.

Gair gan ein Cyfarwyddwr Benthyca Masnachol

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Richard Wales, Cyfarwyddwr Benthyca Masnachol Cymdeithas Adeiladu Principality: “Rydym yn falch o ddathlu llwyddiant safle datblygu The Mill yng Nghaerdydd, sy’n nodi dros ddegawd o gydweithio â’n partneriaid, Tirion Homes, Lovell Homes, a Llywodraeth Cymru.

“Fel benthyciwr blaenllaw yng Nghymru, mae ein buddsoddiad yn y prosiect blaenllaw hirdymor hwn yn cyd-fynd ag amcanion cartrefi gwell, dyfodol sicr a chymdeithas decach drwy ddarparu cartrefi fforddiadwy o safon i wireddu mwy yn y gymuned. Roedd yn bleser dathlu’r gwaddol hwnnw drwy ddod â phartneriaid, ddoe a heddiw, ynghyd.” 

Sylwadau gan ein partneriaid

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:

“Braf oedd dathlu llwyddiant datblygiad the Mill a’r tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen yn yr ardal.

“Gwyddom fod tai o ansawdd da yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl a theuluoedd ac mae’n wych ein bod wedi gallu rhoi bywyd newydd i’r safle, a hynny drwy ein buddsoddiad benthyciad a gweithio mewn partneriaeth.”

 

Dywedodd David Ward, Prif Swyddog Gweithredol Tirion Homes: 

“Mae The Mill wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Mae’n fwy na datblygiad brics a mortar yn unig, mae’n gymuned gynaliadwy newydd a grëwyd drwy gydweithrediad rhwng Tirion Homes a’n partneriaid, Cymdeithas Adeiladu Principality a Llywodraeth Cymru, y mae eu gwerthoedd a’u hamcanion wedi’u halinio. Mae Lovell a Cadwyn hefyd wedi chwarae rhan bwysig yn y bartneriaeth gan helpu i sicrhau llwyddiant. Fodd bynnag, er i ddatblygiad The Mill ddechrau fwy na degawd yn ôl, mae'r heriau a oedd yn ein hwynebu bryd hynny hyd yn oed yn fwy perthnasol heddiw.

“Mae angen i ni adeiladu ar lwyddiant The Mill a gweithio gyda phartneriaid i adfywio’r llu o safleoedd tir llwyd sydd gennym ledled Cymru. Bydd creu cymunedau newydd gyda ffocws ar dai fforddiadwy a chreu lleoedd yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a chefnogi twf economaidd. Mae Tirion Homes mewn sefyllfa ddelfrydol i ehangu ein partneriaethau gan ddefnyddio cyllid preifat arloesol i gyflymu’r gwaith o ddarparu cartrefi y mae mawr eu hangen wrth leihau’r galw ar gyllid cyhoeddus prin.”

 

Dywedodd Gemma Clissett, Cyfarwyddwr Partneriaethau Rhanbarthol yn Lovell Homes:

“Mae The Mill wedi ar y gweill ers dros ddegawd, ac mae adfywio’r safle tir llwyd hwn yn gymuned fywiog a phentref trefol o dros 800 o gartrefi yn gamp yr ydym yn hynod falch ohono. Mae gwireddu The Mill wedi bod yn anrhydedd go iawn ac roedd yn bleser dathlu llwyddiant y cynllun gyda’n holl bartneriaid. Mae The Mill yn brosiect a fydd yn parhau i fod yn agos at ein calonnau yn Lovell ac yn helpu i lywio sut rydym yn cyflawni datblygiadau ar raddfa fawr yn y dyfodol.” 

 

An illustrated Principality logo. (Welsh)

Ewch i'r ystafell newyddion

 Y wybodaeth ddiweddaraf am y gymdeithas.