Mynediad at arian parod i drigolion Bwcle
Yn yr erthygl hon
Gwneud arian parod yn hygyrch
Mae Cymdeithas Adeiladu Principality yn bwriadu hybu mynediad at arian parod ym Mwcle, Sir y Fflint gyda chiosg arian parod mewn partneriaeth â’r arloeswr bancio a rennir, OneBanx.
Mae ciosg Bwcle, y cyntaf o’i fath yng ngogledd Cymru, yn dilyn dau arall yng nghangen Principality yn y Bont-faen ac yng Nghaerffili – gan gyflawni ymrwymiad parhaus y gymdeithas adeiladu i barhau â'i phresenoldeb ar ffurf cangen a’i theyrngarwch i gwsmeriaid, drwy wneud arian parod yn fwy hygyrch mewn cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan fanciau a gaewyd yn ddiweddar.
Gwrando ar y gymuned
Mae gwasanaeth OneBanx, a hwylusir gan gydweithwyr o Principality, yn garreg filltir arwyddocaol i gymuned Bwcle. Yn dilyn cau banc y stryd fawr am y tro olaf yn 2019, cychwynnodd y cynghorydd lleol, Carolyn Preece, ddeiseb a welodd dros 100,000 o lofnodion, gan ennyn diddordeb cenedlaethol ynghylch mynediad at arian parod mewn cymunedau.
Arweiniodd gwaith parhaus gan y gwleidydd lleol Jack Sargeant AS, a Chyngor Sir y Fflint at gynlluniau i lansio’r derfynfa gyda’r Gymdeithas ar ddechrau gwanwyn 2025, yn llyfrgell Bwcle, gan roi presenoldeb personol mawr ei angen i drigolion lleol a busnesau bach, gan gynnig mynediad i arian parod.
Dywedodd Jack Sargeant, Aelod o’r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy, “Dyma newyddion gwych i Fwcle. O’r eiliad y cysylltais â Principality i ofyn iddo leoli safle ym Mwcle, sylweddolais ei bod yn rhannu fy angerdd dros ddod â bancio yn ôl i Fwcle.
“Mae’r bartneriaeth hon yn golygu, unwaith eto, y gall busnesau a thrigolion ym Mwcle gael mynediad at wasanaethau arian parod lle maen nhw'n byw ac yn gwneud busnes. I mi, mae’n golygu fy mod wedi cyflawni’r addewid a wnes i drigolion, a hynny diolch i’r bartneriaeth hon gyda Principality a Chyngor Sir y Fflint. Hoffwn ddiolch i swyddogion y cyngor sydd wedi gweithio gyda mi a Principality i gyflawni’r prosiect hwn.”
Beth yw OneBanx?
Mae technoleg arloesol OneBanx yn pontio bwlch ariannol sy’n galluogi unigolion a chwsmeriaid busnes holl fanciau a chymdeithasau adeiladu mawr y DU i adneuo a thynnu arian parod o gyfrifon cyfredol heb fod angen defnyddio cerdyn. Ni chodir tâl am y gwasanaeth, ac mae arian ar gael ar unwaith. Mae'r gwasanaeth hefyd ar gael yn y Gymraeg.
Nod Principality yw ehangu’r defnydd o’r gwasanaeth mewn ardaloedd penodol ar draws y rhanbarth sydd â diffyg mynediad at fanciau’r stryd fawr, gan wneud mynediad at arian parod yn fwy hygyrch i gymunedau Cymru. Mae OneBanx eisoes wedi sefydlu cyfleusterau tebyg mewn rhanbarthau fel yr Alban, Gogledd-ddwyrain Lloegr, a Dwyrain Canolbarth Lloegr.
Gair gan ein Prif Swyddog Cwsmeriaid
Dywedodd Vicky Wales, Prif Swyddog Cwsmeriaid Cymdeithas Adeiladu Principality, “Rydym yn falch o gyhoeddi gosod terfynell OneBanx yn Llyfrgell Bwcle, yn dilyn llwyddiant y ddau giosg blaenorol yn ein canghennau yn y Bont-faen ac yng Nghaerffili.
Mae ein Haelodau wedi dweud wrthym fod mynediad at arian parod yn chwarae rhan hanfodol yn eu bywydau. Mae cadw gwasanaethau hanfodol ar y stryd fawr yn rhoi hyder i’n cwsmeriaid a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu gyda balchder.
Mewn rhanbarthau yr effeithiwyd arnynt gan y banciau a gaewyd yn ddiweddar, rydym yn deall bod gwasanaeth OneBanx, ynghyd â phresenoldeb ein canghennau yn grymuso trigolion a busnesau lleol i reoli eu harian yn effeithiol ac mewn ffordd hygyrch, gan gyfrannu at gymunedau a thwf economaidd lleol"
Cynghorwyr Lleol yn rhannu eu barn
Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Preece, o Fwcle: “Pan lansiais y ddeiseb ychydig flynyddoedd yn ôl a threfnu cymorth gan fy AS lleol, Jack Sargeant, wnes i erioed freuddwydio y byddem yn dechrau trafodaethau ag un o gymdeithasau adeiladu amlycaf y DU. Ond, drwy ein hymgyrchu, gweledigaeth y Principality a pharodrwydd Cyngor Sir y Fflint i helpu, mae bancio yn dychwelyd i Fwcle. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu gwaith caled i wireddu hyn.”
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros yr Economi, yr Amgylchedd a’r Hinsawdd: “Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn falch iawn o weithio ochr yn ochr â’n partneriaid i ddod â chyfleuster bancio newydd i Fwcle. Mae cyfleusterau fel hyn yn hanfodol i gynnal canol ein trefi a hoffem ddiolch i Gymdeithas Adeiladu Principality am ei hymrwymiad i Fwcle.”
Sylwadau gan OneBanx
Dywedodd Javed Anjum, Prif Weithredwr OneBanx “Rydym yn falch o ehangu ein partneriaeth strategol gyda Chymdeithas Adeiladu Principality, i gefnogi ei hymrwymiad i’w Haelodau. Mae OneBanx yn pontio'r bwlch rhwng cwsmeriaid sy'n dibynnu ar ganghennau banc ar gyfer trafodion arian parod a hwylustod bancio digidol. Fel darparwr arloesol gwasanaethau trafodion arian parod aml-fanc yn y DU ers 2020, rydym wedi hwyluso symiau sylweddol o arian parod ar gyfer miloedd o ddefnyddwyr a busnesau yn y DU. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i arloesi parhaus i ddiwallu anghenion esblygol defnyddwyr y DU.”
- Straeon aelodau