Hybu mynediad at arian parod mewn cymunedau wrth i fanciau gau
Yn yr erthygl hon
Hybu mynediad at arian parod gyda OneBanx
Bydd Cymdeithas Adeiladu Principality yn rhoi hwb i'r gallu i gael gafael ar arian parod mewn cymuned yng Nghymru yr effeithiwyd arni gan fanciau’r stryd fawr yn cau, drwy gynllun peilot ciosg arian parod mewn partneriaeth â’r arloeswr bancio a rennir, OneBanx.
Bydd y ciosg arian parod yn cael ei gynnal yng nghangen Principality yn y Bont-faen a dyma’r cyntaf o’r math i gael ei osod yng Nghymru. Mae'n galluogi unigolion a chwsmeriaid busnes banciau a chymdeithasau adeiladu mawr i dalu arian parod i mewn a'i dynnu allan heb fod angen defnyddio cerdyn. Nid oes tâl am y gwasanaeth a bydd y cwsmer yn derbyn yr arian ar unwaith, ac mae’r gwasanaeth hefyd ar gael yn y Gymraeg.
Os bydd yn llwyddiannus, gallai’r cynllun peilot fod yn llwybr i Principality gyflwyno mwy o’r ciosgau mewn rhai lleoliadau cangen ledled y wlad nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan fanciau’r stryd fawr. Mae OneBanx eisoes wedi cyflwyno’r cyfleusterau hyn mewn rhannau o’r Alban, Gogledd-ddwyrain Lloegr, a Dwyrain Canolbarth Lloegr.
Bydd y gwasanaeth ar gael yn ystod oriau agor y gangen chwe diwrnod yr wythnos, a bydd cwsmeriaid sydd angen cymorth i ddefnyddio’r gwasanaeth yn cael eu cefnogi gan gydweithwyr cangen Principality.
Gair gan ein Pennaeth Dosbarthu
Dywedodd Shaun Middleton, Pennaeth Dosbarthu Principality: “Mae’r duedd ddiweddar tuag at gau canghennau banc lleol a pheiriannau arian parod wedi codi pryderon am hygyrchedd arian parod, yn enwedig i’r henoed, pobl agored i niwed, a phobl heb fynediad hawdd i’r rhyngrwyd. Mae ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth personol a deall anghenion unigryw ein cymunedau yn ein gosod ar wahân. Wrth inni lywio’r oes ddigidol a gweld gwasanaethau ariannol yn esblygu, fel sefydliad sy’n cael ei arwain gan ddiben, credwn ei bod yn hollbwysig nad ydym yn gadael y rhai sy’n dibynnu ar ddulliau bancio a thrafodiadau traddodiadol ar ôl.
“Mae gan Principality y rhwydwaith canghennau mwyaf o unrhyw frand ariannol yng Nghymru, ac rydym wedi ymrwymo i gadw pob cangen ar agor tan o leiaf ddiwedd 2025. Drwy sicrhau bod peiriannau arian parod a chiosgau ar gael mewn lleoliadau strategol, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad oes llawer o gyfleusterau arian parod ar ôl, credwn y gall gwasanaethau ariannol gyfrannu at gynnal bywiogrwydd economaidd ein cymunedau.”
Sylwadau gan OneBanx
Dywedodd Duncan Cockburn, Prif Swyddog Gweithredol OneBanx: “Mae’r bartneriaeth gyda Chymdeithas Adeiladu Principality yn adeiladu ar y safleoedd treialu parhaus gyda Chymdeithas Adeiladu Newcastle ac yn atgyfnerthu sut y gall y sector cymdeithasau adeiladu yn ei gyfanrwydd chwarae rhan arwyddocaol wrth barhau i ddarparu seilwaith bancio a rennir ar y stryd fawr. Mae angen arloesi i sicrhau y gellir defnyddio atebion mewn cymunedau yn amserol wrth i ganghennau barhau i gau. Edrychwn ymlaen at gyhoeddiadau pellach yn y dyfodol agos wrth i ni ddod â’n datrysiad bancio cangen hyblyg, costeffeithiol a rennir i lawer mwy o strydoedd mawr, canolfannau siopa, a lleoliadau cyfleus eraill mewn partneriaeth â’n cwsmeriaid.”
- Straeon aelodau