Skip to content

Enwi cyfrifon cynilo Principality yn rhai 'hawdd i'w hagor' gan Moneyfacts

Man smiling while looking at credit card and using laptop

Yn yr erthygl hon

Moneyfacts yn dyfarnu 5 seren

Mae ein cyfrifon cynilo wedi cael sgôr 5 seren gan Moneyfacts am fod yn hawdd i'w hagor.

Yn newydd ar gyfer 2025, mae sgôr Moneyfacts am gyfrifon hawdd i’w hagor yn gwerthuso pa mor hawdd yw hi i agor cyfrifon cynilo gyda phob darparwr. Ac rydym ni wedi ennill y sgôr uchaf gan fod ein rhai ni mor hawdd i'w hagor â phosibl.

Pwy yw Moneyfacts?

Ers dros 35 mlynedd, mae Moneyfacts wedi bod yn ffynhonnell ddibynadwy ac annibynnol o ddata cywir a diduedd am gynhyrchion ariannol ar draws y diwydiant ariannol. 

Mae'r tîm arbenigol yn monitro'r farchnad yn gyson i ddarparu data a mewnwelediad ar gyfer morgeisi, cynilion, cardiau credyd, benthyciadau, bancio busnes, yswiriant a chynhyrchion buddsoddi ledled y DU.

Hwyluso cynilo

Ym mis Hydref 2024, lansiwyd ein gwefan wedi'i hailgynllunio sy'n rhoi anghenion ein cwsmeriaid yn gyntaf. Dywedodd ein Haelodau wrthym fod ein hen wefan yn teimlo’n anniben ac yn ddryslyd, gan ei gwneud yn anoddach dod o hyd i’r hyn yr oedd ei angen arnynt. Gwnaethom wrando a gwneud newidiadau i'w gwneud yn haws i'w defnyddio.

Nawr, mae defnyddio ein cyfrifon cynilo yn fwy syml a didrafferth gyda'r canlynol:

  1. cardiau cynnyrch - cymharu opsiynau ar gipolwg
  2. hidlwyr gwell - nodi yr hyn sydd ei angen arnoch yn gyflym
  3. iaith symlach - gwneud termau ariannol yn hawdd eu deall

Beth sy'n gwneud cyfrif yn un 'Hawdd i'w Agor'

Mae Moneyfacts yn seilio ei sgoau seren ar gyfer cyfrifon cynilo Hawdd i'w Hagor ar nodweddion gwasanaeth penodol, gan ystyried gwybodaeth darparwyr a defnyddwyr.

Mae’r broses adolygu yn cynnwys gwybodaeth a gafwyd gan:

  1. Adborth gan gwsmeriaid

    Gofynnwyd i ddefnyddwyr moneyfactscompare.co.uk am adborth ar ba mor hawdd oedd hi i agor cyfrif gyda ni.

  2. Adborth gan ddarparwyr

    Gofynnwyd i ni am fanylion ynghylch agor ein cyfrifon cynilo, gan gynnwys y camau a’r amser a gymerir i gwblhau cais ar-lein.

  3. Data gan ddarparwyr

    Aseswyd ein data ar y dulliau agor ar gyfer ein cyfrifon cynilo.

  4. Dadansoddiad arbenigol Moneyfacts

    Adolygwyd ein gwefan o safbwynt cwsmer, gan asesu pa mor hawdd yw hi i ddod o hyd i’n cyfrifon cynilo, y dulliau agor sydd ar gael, a’r offer a’r cymorth rydym yn eu cynnig.

 

Moneyfacts - 5 star service rating - savings easy to open 2025

Gweld yr holl gyfrifon cynilo


Porwch ein hystod lawn o gyfrifon cynilo ac ISA.


Cymharu'r holl gyfrifon