Skip to content

Ennill blaendal a dysgu arferion cynilo iach

A picture of Cardiff Half Healthy Habits participants

Yn yr erthygl hon

Gweithio gyda Hanner Marathon Caerdydd

Wrth gyfri'r dyddiau tan Hanner Marathon Caerdydd ar 1 Hydref, mae noddwyr y digwyddiad Cymdeithas Adeiladu Principality yn helpu prynwyr tro cyntaf i fod ‘gam ar y blaen’ drwy gynnig cyfle i un person lwcus ennill £24,207 tuag at ei gartref cyntaf.
 

Nid rhif ar hap yn unig yw’r wobr. Mae’n 10% o bris tŷ cyfartalog yng Nghymru, yn ôl Mynegai Prisiau Tai Cymru Ch2 Principality, sy’n rhoi pris eiddo cyfartalog i bobl Cymru ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol ledled Cymru.
 

Yn ogystal â chynnig y cyfle i brynwr tro cyntaf ennill blaendal tŷ, mae Principality a Hanner Marathon Caerdydd yn cydweithio i greu a rhannu arferion iach sy’n talu ar eu canfed. O gynilo ar gyfer eich cartref cyntaf i wthio drwy'r nosweithiau hir o redeg, ei nod yw eich helpu i groesi llinell derfyn y ddwy garreg filltir.

Gair gan ein Prif Swyddog Gweithredol

Dywedodd Vicky Wales, Prif Swyddog Cwsmeriaid Cymdeithas Adeiladu Principality: “Wrth i ni agosáu at ddiwrnod y ras, rydym yn falch o lansio ein menter Arferion Iach newydd. Rydym yn deall bod yr hinsawdd ariannol bresennol yn golygu ei bod yn arbennig o anodd i brynwyr tro cyntaf gamu ar yr ysgol eiddo ac nad yw cynilo bob amser yn rhywbeth y gellir ei flaenoriaethu. Mewn gwirionedd, mae mwy nag un tebygrwydd rhwng hyfforddi ar gyfer marathon a chynilo arian, boed hynny ar gyfer eich cartref cyntaf, neu i brynu pâr newydd o esgidiau rhedeg."
 

“Drwy fabwysiadu ychydig o arferion iach, a gwneud tipyn bach yn aml, rydyn ni'n credu y gallwch chi gyflawni pethau gwych. Rydym yn falch iawn o roi hwb arbennig iawn i brynwr tro cyntaf gyda’n raffl, gan hefyd roi awgrymiadau a fydd yn rhoi help llaw i lawer mwy hefyd, beth bynnag fo’u nod cynilo.” 
 

Sylwadau gan Run4Wales 

Dywedodd Matt Newman, Prif Weithredwr Run4Wales: “Wrth i ni baratoi i ddathlu 20 mlynedd ers sefydlu'r ras yr hydref hwn, mae lansio cystadleuaeth rhodd blaendal tŷ Principality wir yn ychwanegu at y cyffro a’r disgwyl.
 

“Mae’n swm o arian sy'n newid bywyd ac rydym wrth ein bodd bod pawb sydd wedi cofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd Principality 2023 yn gallu dyblu eu siawns o ennill, gyda chais awtomatig ychwanegol i’r gystadleuaeth os ydynt yn gallu darparu dull adnabod cofrestru cymwys – sydd i’w weld yn yr e-bost cadarnhau a gafwyd wrth gofrestru ar gyfer y ras. Pob lwc i bawb sy'n cymryd rhan!” 
 

Noder: mae'r gystadleuaeth hon wedi cau erbyn hyn. Gweler rhagor o wybodaeth am ein henillydd, Tyler.  

An illustrated Principality logo. (Welsh)

Ewch i'r ystafell newyddion

 Y wybodaeth ddiweddaraf am y gymdeithas.