Datblygiad tai nodedig yng Nghaerdydd wedi’i gwblhau ar ôl 10 mlynedd
Yn yr erthygl hon
Ynglŷn â The Mill
Mae gwaith wedi'i gwblhau ar gam olaf datblygiad The Mill, gyda 157 o gartrefi olaf y fenter 800 o gartrefi wedi'u cwblhau erbyn hyn.
Mae’r datblygiad gwerth £150m, sydd wedi ymestyn dros 10 mlynedd ers i’r cam cyntaf ddechrau yn 2014, wedi’i ariannu gan Principality Masnachol, cangen benthyca masnachol cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru, a’i gyflawni mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Tirion Homes, Lovell a Chymdeithas Tai Cadwyn.
Aadeiladwyd hanner yr 800 o gartrefi ar hen safle melin bapur Arjo Wiggins yn benodol ar gyfer cartrefi rhent fforddiadwy drwy Tirion Homes, gan gynnwys 75 a oedd ar gael fel tai cymdeithasol. Gwerthwyd cyfanswm o 358 eiddo ar y farchnad agored gan Lovell.
Wedi'i gwblhau yn ystod y mis diwethaf, mae'r portffolio terfynol o 157 o gartrefi fforddiadwy yn cynnwys cymysgedd o fflatiau a thai, a reolir gan Gymdeithas Tai Cadwyn, ac mae pob un ohonynt eisoes wedi'u rhentu i denantiaid newydd.
Mae’r prosiect nodedig wedi trawsnewid yr hyn a oedd yn safle diffaith yn gymuned newydd gynaliadwy i Gaerdydd.
Meddai Richard Wales, Cyfarwyddwr Benthyca Masnachol Cymdeithas Adeiladu Principality: “Wrth gwblhau cam olaf datblygiad The Mill yn llwyddiannus, rydym yn hynod gyffrous i weld y safle gwag yr hen felin bapur yn cael ei drawsnewid yn gymuned fywiog a chynaliadwy i Gaerdydd.
"Mae’r garreg filltir hon yn cynrychioli ein hymrwymiad i wireddu gobeithion a dyheadau bywyd mewn ffordd sy’n gweithio i bawb. Drwy helpu pobl i mewn i’w heiddo eu hunain, ariannu tai cynaliadwy a fforddiadwy, a chefnogi creu cartrefi sy’n diwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol, rydym yn cyfrannu at ddyfodol mwy disglair i gymunedau lleol."
Mae’r garreg filltir hon yn cynrychioli ein hymrwymiad i wireddu gobeithion a dyheadau bywyd mewn ffordd sy’n gweithio i bawb.
Yn ogystal â’r cartrefi newydd a grëwyd, mae gwaith seilwaith a wnaed yn cynnwys ffyrdd newydd, traphont a gwelliannau i amddiffynfeydd llifogydd yn yr ardal. Mae cyfanswm o bum uned fasnachol hefyd ar gael i’w rhentu, a fydd yn cael eu rheoli gan Tirion Homes, sydd mewn trafodaethau gyda phartïon â diddordeb.
Mae’r safle hefyd wedi datblygu parc glan yr afon sy’n cynnwys mannau gwyrdd, ardal chwarae i blant a llwybrau beicio. Mae cynlluniau pellach ar y gweill hefyd i adeiladu ar hyn a darparu cyfleusterau ychwanegol fel rhan o’r hwb sy’n cynnwys canolfan gymdogaeth, a llwybrau bysiau gyda chysylltiadau â chanol y ddinas.
Yr hyn y mae pobl eraill yn ei ddweud
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, Jayne Bryant, “Drwy ein buddsoddiad benthyciad, rwy'n falch ein bod wedi gallu darparu gwerth £8m o gymorth ariannol tuag at ddatblygiad The Mill.
“Gwyddom fod galw mawr am dai o ansawdd da yn yr ardal ac mae’n wych ein bod ni, drwy ein partneriaethau, wedi gallu rhoi bywyd newydd i’r safle a darparu ar gyfer y gymuned.”
Gwyddom fod galw mawr am dai o ansawdd da yn yr ardal ac mae’n wych ein bod ni, drwy ein partneriaethau, wedi gallu rhoi bywyd newydd i’r safle a darparu ar gyfer y gymuned.
Dywedodd David Ward, Prif Swyddog Gweithredol Tirion Homes: “Rydym wrth ein bodd i ddathlu cwblhau cam olaf datblygiad The Mill. Mae’r prosiect hwn yn glod i waith caled ac ymroddiad ein tîm a’n partneriaid dros y 12 mlynedd diwethaf, sydd wedi llwyddo i ymdopi â sawl her ar hyd y ffordd, yn fwyaf nodedig drwy’r pandemig Covid-19. Erbyn hyn, mae The Mill yn lle bywiog, cynaliadwy sy’n galluogi aelwydydd i ffynnu, yn ogystal â bod yn rhan o’r gwaith adfywio parhaus sy’n digwydd ledled Caerdydd.
“Mae’r galw mawr am y cartrefi hyn o safon yn tanlinellu pwysigrwydd ein cenhadaeth i ddarparu tai fforddiadwy. Fel sefydliad, mae pob un ohonom yn ymwneud â darparu mwy o ddewis i'r rhai na allant, neu'r rhai nad ydynt yn ceisio, prynu eu cartref eu hunain. Ni fyddai hyn yn bosibl heb gefnogaeth ddiwyro Cymdeithas Adeiladu Principality, Llywodraeth Cymru, Cadwyn, a Lovell. Rydym yn falch o’r cyflawniad sylweddol hwn ac edrychwn ymlaen at barhau â’n hymdrechion i adeiladu cymunedau mwy cynaliadwy yng Nghymru.”
Dywedodd James Duffett, Rheolwr Gyfarwyddwr Rhanbarthol Lovell: “The Mill yw ein datblygiad blaenllaw yng Nghaerdydd, gan gyfuno’r gorau oll o’n partneriaethau a’n harbenigedd gwerthu. Rydym wedi adeiladu pob cartref gyda gofal a manylder, gan gadw preswylwyr y dyfodol mewn cof bob cam o'r ffordd, ac rydym bellach yn hynod falch o fod wedi cwblhau'r cam olaf a darparu 800 o gartrefi o ansawdd uchel.
“Mae’r bartneriaeth lwyddiannus hon rhyngom ni, Tirion, Cadwyn, Cymdeithas Adeiladu Principality a Llywodraeth Cymru wedi trawsnewid hen safle’r felin bapur yn gymuned lewyrchus, gyda chartrefi y gall pobl fod yn falch o fod yn berchen arnynt am genedlaethau i ddod.”
- Newyddion y gymdeithas