Skip to content

Cynnydd mewn gwerthiant tai yn arwydd o adferiad y farchnad

Mae cynnydd mewn gwerthiant tai yn arwydd o adferiad graddol yn y farchnad er gwaethaf y gostyngiad ym mhrisiau tai.
A street of semi detached houses

Yn yr erthygl hon

Gostyngodd pris cyfartalog cartref yng Nghymru i tua £232,400 yn nhrydydd chwarter 2024 – 2.9% yn is na ffigurau Hydref 2023 a bron i 7% yn is na’i uchafbwynt o £249,000 ar ddiwedd 2022.

Fodd bynnag, mae'r cynnydd mewn trafodiadau yn y trydydd chwarter wedi gwrthbwyso'r dirywiad bach mewn prisiau, gan nodi adferiad graddol yn y farchnad.

Mynegai Prisiau Tai Cymru

Rhyddhawyd y ffigurau gan Fynegai Prisiau Tai Cymru Cymdeithas Adeiladu Principality ar gyfer Ch3 2024 (Gorffennaf-Hydref), sy’n dangos y cynnydd a’r gostyngiad ym mhrisiau tai ym mhob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad bach o 1.7% ers y chwarter diwethaf, pan gododd prisiau 3.1%, a ysgogwyd gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn adrodd prisiau uwch yn Ch2 am y tro cyntaf ers 2022.

Er gwaethaf y gostyngiad bach mewn prisiau’r chwarter hwn, roedd tua 11,200 o drafodiadau yng Nghymru yn nhrydydd chwarter 2024, 18% yn fwy nag yn yr ail chwarter ac 11% yn uwch na’r un cyfnod flwyddyn yn ôl.

Mae'r cynnydd hwn yn cefnogi'r adferiad mewn gwerthiant eiddo a ddechreuodd yn ail chwarter y flwyddyn hon, yn dilyn cyfnod o ddirywiad cyson. Am ddwy flynedd, gwnaeth pwysau costau byw a chyfraddau llog uwch leihau’r galw yn sylweddol ac arafu gweithgarwch ar draws y rhan fwyaf o’r DU, gan gynnwys Cymru.

Yr hyn y mae ein Haelodau yn ei ddweud

Datgelodd arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Gymdeithas Adeiladu Principality fod bron i hanner (48%) yr aelodau a ymatebodd yn dweud bod lefel cyfradd sylfaenol Banc Lloegr wedi effeithio ar eu gallu i gynilo. Mae’r gostyngiad diweddar yn y gyfradd sylfaenol i 5%, a rhagfynegiadau economegwyr y gallai hyn ostwng ymhellach yn arwyddion calonogol o amodau marchnad gwell. Mae hyn, ynghyd ag adfywiad mewn gwerthiant tai sengl, tai pâr a thai teras, yn awgrymu bod fforddiadwyedd ar gynnydd yng Nghymru.

Cynnydd rhanbarthol

Er bod Mynegai Prisiau Tai Cymru yn dangos bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi nodi gostyngiadau mewn prisiau ar gyfer y chwarter hwn, mae pocedi o gynnydd rhanbarthol hefyd. Ymddengys fod Merthyr Tudful wedi newid er gwell gyda chynnydd o 9.1% mewn prisiau ers yr ail chwarter, yn dilyn cyfnod cynharach o ostyngiadau blynyddol sylweddol, ac yna Wrecsam, gyda chynnydd o 5.3% mewn prisiau.

Gair gan ein Pennaeth Dosbarthu

Dywedodd Shaun Middleton: “Mae trydydd chwarter 2024 yn arwydd o adferiad araf a chyson yn y farchnad dai, er bod prisiau tai wedi gostwng ychydig yn y trydydd chwarter, yn dilyn cynnydd yn yr ail.

“Ledled Cymru, mae datblygiadau ar lefel awdurdod lleol yn gymysg, heb sôn am unrhyw gyfeiriad clir gyda thueddiadau prisiau tai. Serch hynny, mae tuedd amlwg ar i fyny mewn gwerthiant, sy’n dangos bod gweithgarwch y farchnad yn edrych yn gadarnhaol ar y cyfan.”

Parhaodd Shaun: “Gan gyfrif am effeithiau tymhorol fel yr etholiad cyffredinol ac amser o’r flwyddyn, mae’r data’n cefnogi gwelliant graddol yn y farchnad, gyda Chymru’n dangos llygedynau o welliant cyson.

“Disgwylir cyhoeddiad cyllideb mis Hydref Llywodraeth y DU yn fuan, gydag arwyddion cryf y bydd fforddiadwyedd tai yn ffocws allweddol.

Mae hyn yn awgrymu diwygiadau cynllunio posibl, gyda disgwyliadau o fesurau i hybu tai cymdeithasol a fforddiadwy, yn ogystal â chymorth ychwanegol i brynwyr tro cyntaf, yn enwedig y rhai sy'n cael trafferth gyda blaendaliadau mawr.

“Tra bod prisiau tai yn dal i addasu ar i lawr, mae gweithgarwch gwerthu yn ennill tir, sy’n awgrymu y gallai adferiad araf ond cyson fod ar y gorwel. Fodd bynnag, mae cyflymder a natur yr adferiad yn amrywio yn ôl rhanbarth a math o eiddo, felly dylai darpar brynwyr gael y wybodaeth ddiweddaraf am amodau lleol.”

 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n Mynegai Prisiau Tai.

An illustrated Principality logo. (Welsh)

Ewch i'r ystafell newyddion

 Y wybodaeth ddiweddaraf am y gymdeithas.