Skip to content

Cymdeithas Adeiladu Principality yn ymuno â mudiad byd-eang ar gyfer bancio cyfrifol

Aligning Banking with the Sustainable Development Goals - Proud to be a signatory of The Principles for Responsible Banking

Yn yr erthygl hon

Adeiladu diwydiant bancio cynaliadwy

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality yn falch o gyhoeddi ei hymrwymiad swyddogol i Egwyddorion Bancio Cyfrifol y Cenhedloedd Unedig (PRB) a’r Gynghrair Bancio Sero Net (NZBA) a gynullwyd gan y Cenhedloedd Unedig. Mae'r mentrau byd-eang hyn yn uno sefydliadau ariannol ledled y byd mewn cenhadaeth a rennir i adeiladu diwydiant bancio cynaliadwy a moesegol, gan alinio â Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) y Cenhedloedd Unedig a Chytundeb Hinsawdd Paris.

Fel cymdeithas adeiladu yng Nghyrmu sydd wedi’i gwreiddio mewn gwerthoedd cymunedol, mae hyn yn nodi cam diffiniol yn ein taith i ddod yn fusnes cyfrifol a ysgogir yn bwrpasol. Drwy ymuno â’r PRB, rydym yn ymgorffori cynaliadwyedd ym mhob agwedd ar ein strategaeth, penderfyniadau a gweithrediadau. Drwy’r NZBA, rydym yn ymrwymo i gysoni ein gweithgareddau benthyca a buddsoddi ag allyriadau sero net erbyn 2050, wedi’u hategu gan dargedau interim uchelgeisiol ar gyfer 2030 neu’n gynt.

Gair gan ein Prif Swyddog Gweithredol, Julie-Ann

Dywedodd Julie-Ann Haines, Prif Swyddog Gweithredol: “Mae bod yn rhan o Egwyddorion Bancio Cyfrifol y Cenhedloedd Unedig a’r Gynghrair Bancio Sero Net yn esblygiad naturiol o’n hymrwymiad i wneud busnes yn foesegol ac yn gyfrifol. Yn Principality, rydym yn credu yng ngrym gweithredoedd bach ond ystyrlon sy’n ymestyn i greu newid sylweddol.

“Fel cymdeithas adeiladu fwyaf Cymru a chweched fwyaf y DU, rydym yn falch o fod yn chwarae ein rhan wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd, anghydraddoldeb a heriau cymdeithasol. Drwy gydweithio â chymuned fyd-eang o fanciau cyfrifol, rydym yn gweithio i sicrhau cymdeithas decach, fwy cynhwysol a dyfodol mwy cynaliadwy a diogel i’n cwsmeriaid, ein cydweithwyr a'n cymunedau. Dyma’r egwyddorion sy’n ein harwain, nid yn unig heddiw, ond am genedlaethau i ddod.”

Egwyddorion Bancio Cyfrifol

Mae’r Egwyddorion ar gyfer Bancio Cyfrifol yn darparu fframwaith blaenllaw’r byd ar gyfer cyllid cynaliadwy. Mae llofnodwyr fel Principality yn ymrwymo i:

  • alinio strategaethau â'r Nodau Datblygu Cynaliadwy a Chytundeb Hinsawdd Paris
  • mesur ac adrodd ar effaith amgylcheddol a chymdeithasol eu gweithgareddau
  • gosod a gweithredu targedau lle gallant greu'r newid mwyaf ystyrlon

Mae’r Gynghrair Bancio Sero Net yn dwyn ynghyd 135 o fanciau ar draws 44 o wledydd i gefnogi’r newid i economi sero net, gan gynnig offer ymarferol a chanllawiau seiliedig ar wyddoniaeth i gyrraedd targedau credadwy ar gyfer lleihau allyriadau.

Manteisio ar ein rôl a gwneud newid

Drwy ymuno â’r mentrau hyn, mae Principality yn cofleidio ei rôl mewn mudiad sy’n gweld diben a phroffidioldeb yn gweithio law yn llaw. Fel rhan o gymuned gwasanaethau ariannol cynaliadwy mwyaf y byd, rydym yn benderfynol o fod yn gatalydd ar gyfer newid, gan gydweithio i amddiffyn ein planed, cryfhau ein cymunedau a sicrhau ffyniant a rennir i bawb.

Ynghyd â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, rydym yn adeiladu dyfodol mwy disglair, heddiw.