Skip to content

Meithrin perthynas dros y tymor hir gyda George Wilson Developments

Three men standing (George Wilson Developments)

Yn yr astudiaeth achos hon

Astudiaeth achos - fideo

Mae Principality Masnachol wedi bod yn gweithio gyda George Wilson Developments, gan ddarparu cyllid datblygu a buddsoddi, ers dros 25 mlynedd.

 

Ein cydweithrediad diweddaraf yw datblygu eiddo newydd wedi'i rhagosod i Travis Perkins yn Whitstable, Caint.

 

Dywedodd George Wilson MBE, Cadeirydd, George Wilson Developments:

“Y gwahaniaeth wrth weithio gyda Principality yw bod y tîm yn deall y gofynion sydd eu hangen arnom yn llawn.  Rydym yn eu hystyried nhw ychydig yn unigryw oherwydd byddan nhw'n dod i mewn ar y dechrau, oherwydd nid oes llawer o fenthycwyr yn rhoi cyllid adeiladu.

Mae'r criw yma yno ar y dechrau sy’n gwneud byd o wahaniaeth oherwydd eich bod yn gwybod o’r diwrnod cyntaf pan fyddwch yn cofrestru ac yn dechrau’r ymgyrch bod gennych y cyllid i’w adeiladu, yn ogystal â'r cyllid hirdymor i’w ariannu dros gyfnod o amser wrth i chi gasglu’r rhent.”

Mwy am y prosiect hwn

Cefnogi datblygiad yr adeilad cownter masnach 17,000 troedfedd sgwâr hwn gydag iard 88,000 troedfedd sgwâr.

 

Fel gyda phob prosiect, roedd nifer o gymhlethdodau yn y datblygiad hwn gan gynnwys, ar yr ochr gyfreithiol, mynediad i'r safle a datblygu'r ardaloedd cyfagos ac, wrth adeiladu, atgyfnerthu'r iard fawr.

 

Mae'r datblygiad bellach wedi'i gwblhau'n llawn ac yn cael ei osod i Travis Perkins Trading Company Limited.

 

Dywedodd Gareth Redding, Uwch-reolwr Cysylltiadau Principality Masnachol: “Rydym wedi meithrin perthynas dda iawn a, dros y blynyddoedd, rydym wedi ymgymryd â llawer o brosiectau gyda’n gilydd. O’n hochr ni, wrth i ni ddatblygu pobl i ddod drwodd, byddan nhw'n gallu gweithio gyda’r Grŵp yn y dyfodol a pharhau â’r berthynas â Grŵp George Wilson, sydd wedi bod o’r radd flaenaf hyd yn hyn.”