5 awgrym i arbed arian Nadolig nesaf

Diweddarwyd ddiwethaf: 22/02/2023

Mae’r Nadolig yn gyfnod hapus a chyffrous iawn i lawer o bobl. Ond nid yw’n anarferol teimlo’r straen ariannol, yn enwedig os ydych wedi gadael popeth tan y funud olaf. 

Felly, beth am i chi ddechrau cynllunio ymlaen llaw y flwyddyn nesaf? Ac rydym yn golygu ymhell ymlaen llaw! Byddai’n helpu i wasgaru eich cynilo a’ch gwario gyda’r gobaith o leihau straen.

Dyma rai awgrymiadau gwych i arbed arian ar gyfer Nadolig 2023.

Awgrym #1: Lluniwch gyllideb

I wneud arbedion, y lle gorau i ddechrau yw gwybod yn union beth yw eich sefyllfa ariannol. Gwnewch restr drylwyr o’ch incwm a’ch treuliau, a sicrhewch nad ydych yn gadael unrhyw beth allan.

Nodwch eich treuliau sefydlog hanfodol, er enghraifft:

  • Rhent neu forgais
  • Biliau cyfleustodau
  • Y dreth gyngor
  • Yswiriant (car, cartref, teithio ac ati)
  • Costau teithio, gan gynnwys cost rhedeg car
  • Ad-dalu benthyciad neu gerdyn credyd
  • Aelodaeth neu danysgrifiadiadau

Hefyd, ceisiwch gael syniad realistig o gostau amrywiol eraill, er enghraifft siopa am fwyd, dillad, adloniant a mynd allan. Ffordd dda o gael syniad cywir o faint rydych yn ei wario bob mis yw drwy edrych ar gyfriflenni diweddar.

Bydd gwybod yn union beth rydych yn ei wario yn ei gwneud hi’n haws nodi ble y gellir gwneud arbedion.

Awgrym #2: Cwtogi ar eich treuliau

Pan fo gennych ddarlun clir o'ch treuliau, mae'n amser lleihau rhai o'r costau hyn.

Gallech ddechrau gyda newidiadau bach, fel prynu rhai o’ch dillad yn ail law, neu ddod o hyd i fargen well ar gontract eich ffôn symudol. 

Gall defnyddio gwefannau cymharu i gael bargeinion gwell ar eich biliau yswiriant a chyfleustodau hefyd arwain at arbedion da, yn enwedig os byddwch yn gwneud hyn yn drylwyr.

Dysgwch fwy am newid biliau eich cartref.

Gallwch hefyd roi cynnig ar apiau rhannu megis Olio, gyda’r nod o leihau gwastraff bwyd, a all fod yn ddefnyddiol i gasglu eitemau pan fydd pobl eraill yn clirio eu cypyrddau.

I gael rhagor o awgrymiadau defnyddiol ar gyfer y cartref, darllenwch 15 ffordd o arbed arian gartref.

Awgrym #3: Dod i arfer â chynilo’n rheolaidd

Fel sy'n wir yn aml, dechrau rhywbeth yw’r cam anoddaf yn aml. Fodd bynnag, mynd i’r arfer â gwneud arbedion yn rheolaidd ac yn aml yw'r ffordd orau o sicrhau ei fod yn talu ar ei ganfed.

Felly beth am geisio mynd i’r arfer â chael ‘diwrnod cynilo’ bob mis? Gallwch lunio cyllideb bob mis, a gweithio allan ffyrdd o roi hwb i'ch arian.

Er mwyn helpu darpar gynilwyr, mae Principality wedi lansio Bond Cynilo Rheolaidd Nadolig 2023. Gallwch agor y pot cynilo hwn ar gyfer y Nadolig am £1 ar-lein, neu mewn cangen, a gallwch dalu hyd at £125 i mewn bob mis.

Awgrym #4: Siopa’n ddoeth

Mae siopa am fwyd bob wythnos ymhlith y gost fwyaf i aelwydydd, felly mae'n haeddu sylw arbennig.

Mae cynllunio’n allweddol yma. Gosodwch gyllideb ar gyfer eich taith siopa wythnosol a chynlluniwch eich prydau bwyd ymlaen llaw. Mae gwybod beth rydych yn ei fwyta bob dydd yn ffordd rhyfeddol o effeithiol o arbed arian - yn bennaf oherwydd nad ydych yn cael eich hun yn gorffen gwaith am y dydd, yn mynd i banig am beth i'w gael, ac yn taflu arian at y broblem.

Yn yr un modd, lluniwch restr siopa bob amser a chadwch ati. Cynlluniwch ble rydych yn siopa gyda'ch cyllideb mewn golwg. Mae gan rai archfarchnadoedd brif gynhyrchion sy’n cynnig gwell gwerth am arian, er enghraifft, tra bod gan eraill ddisgowntiau sticeri melyn gwell o bosibl.

Mae swp-goginio yn ffordd arall o wneud yn fawr o’ch arian yn y gegin. Mae rhai prydau yn well ar ôl bod yn yr oergell am ychydig ddyddiau – megis stiwiau a bolognese – felly gwnewch ddefnydd da o'r tupperware. Hyd yn oed os nad ydych yn swp-goginio, paratowch ddigon bob amser ar gyfer bwyd dros ben amser cinio.

Awgrym #5: Rhowch hwb i’ch incwm

Mae arbed arian a chynilo yn iawn… Ond mae hefyd yn werth meddwl sut i wneud rhagor o arian.

Gallai hyn olygu ymgymryd â rhagor o waith, fel goramser os yw ar gael. Neu efallai ei bod hi'n hen bryd gofyn am ddyrchafiad?

Fel arall, efallai yr hoffech roi cynnig ar sefydlu busnes ar yr ochr. Ydych chi'n dda am atgyweirio pethau? Neu addurno cacennau? Gallech droi rhywbeth rydych yn ei wneud yn dda – ac yn ei fwynhau – yn rhywbeth sy’n talu ar ei ganfed.

Gallwch hefyd glirio eich cypyrddau. Gallai gwerthu dillad diangen ac eitemau eraill ar eBay neu Gumtree helpu i godi arian ychwanegol. Byddwch yn bendant, serch hynny… Os nad ydych wedi gwisgo rhywbeth ers 12 mis, mae’n bosibl ei bod yn amser cael gwared arno.

Cliciwch ar y botymau isod i ddarllen mwy o gynnwys am y Nadolig yn eich cartref:

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig