Image of a housing development in Wales.

24 August 2020

Y farchnad dai yng Nghymru yn aros yn sefydlog yn ystod y pandemig

Mae prisiau tai yng Nghymru wedi aros yn sefydlog yn ystod Ch2 2020 (Ebrill – Mehefin) er gwaetha’r pandemig coronafeirws, gyda phris tŷ ar gyfartaledd nawr yn £191,880.

Cyhoeddwyd y ffigurau o Fynegai Prisiau Tai Cymdeithas Adeiladu’r Principality, sy’n dangos cynnydd a gostyngiad mewn prisiau tai ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. 

Mae’r cyfartaledd pris newydd ar gyfer tai yng Nghymru yn dangos cynnydd blynyddol o 2.2%  ond cwymp chwarterol o 0.7%, er bod nifer y pryniadau yn is na’r arferol oherwydd y cyfyngiadau symud a oedd ar waith. Roedd trafodiadau 66% yn is yn Ch2 pryd yr oedd y farchnad dai wedi rhewi dros dro.  

Ar ddechrau 2020 roedd cyfartaledd pris tŷ yng Nghymru yn £193,299 ym mis Ionawr, sef yr uchaf erioed. Er i’r cyfyngiadau symud ddechrau ym mis Mawrth, pryd yr oedd cyfartaledd pris tŷ wedi gostwng rywfaint i £193,257, byddai’r rhan fwyaf o benderfyniadau i brynu eiddo yn y mis hwnnw wedi eu gwneud cyn i faint y pandemig ddod yn hysbys. Felly ni fyddai’r achosion o Covid-19 wedi cael llawer o effaith ar brisiau tan fis Ebrill. 

Dywedodd Mike Jones, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Rydym yn parhau i fod yn ofalus ynghylch sut yr ydym yn dehongli data cyfartaledd prisiau tai ar gyfer Ch2 oherwydd bod gwerthiannau fwy na 60 y cant yn is o’u cymharu â’r un cyfnod yn 2019. Bydd y cynnydd dros dro yn y Dreth Trafodiadau Tir i helpu prynwyr tro cyntaf yn arbennig yn debygol o ysgogi’r farchnad dai yn y tymor byr, ynghyd â chynnydd mewn gweithgarwch yn sgil llacio’r cyfyngiadau symud.  

“Serch hynny, pan ddaw cynlluniau ffyrlo Llywodraeth y DU i ben ym mis Hydref, mae’n eithaf posibl y bydd cynnydd yn nifer y swyddi a fydd yn cael eu colli a bydd hyn, yn ei dro, yn debygol o gael effaith negyddol ar hyder defnyddwyr yn gyffredinol. Os digwydd hyn, yna byddem yn disgwyl gweld llai o weithgarwch yn y farchnad dai ledled y DU, ac nid yn unig yng Nghymru.”

Mae’r rhan fwyaf o arsylwyr eiddo yn disgwyl i gyfartaledd prisiau yng Nghymru barhau i godi yn y trydydd chwarter, yn sgil y cynnydd yn nhrothwy’r Dreth Trafodiadau Tir o £180,000 i £250,000, a ddaeth i rym ar 27 Gorffennaf, er nad yw’r arbedion yn berthnasol i’r rhai hynny sy’n prynu ail gartref neu eiddo prynu i osod.

Gwelodd saith awdurdod lleol yng Nghymru brisiau tai yn codi yn ystod Ch2, yn y de yn bennaf, gyda Bro Morgannwg yn cynyddu ar y raddfa fwyaf, sef 14% i gyfartaledd pris o £300,903. Ym Merthyr Tudful gwelwyd cynnydd o 6.8% i £135,108, ac ym Mlaenau Gwent cynyddodd cyfartaledd prisiau tai gan 4.3% i £113,970.

Yn y gorllewin, gwelwyd prisiau yn cynyddu i £223,328 yng Ngheredigion, cynnydd o 6.2% yn ystod Ch2. Sir Ddinbych oedd yr unig awdurdod lleol yn y gogledd i weld prisiau yn codi yn ystod Ch2, gyda chyfartaledd prisiau tai yn £186,105 erbyn hyn sy’n gynnydd o 3.4% o’i gymharu â’r chwarter blaenorol. Gwelwyd gostyngiad mewn prisiau tai mewn 15 awdurdod lleol yng Nghymru yn ystod y cyfnod Ebrill – Mehefin 2020.

Gwelodd gwahanol fathau o eiddo symudiadau amrywiol mewn prisiau yn ystod Ch2 2020, gyda thai teras yn codi 5.7% mewn gwerth ac eiddo sengl yn codi 3.8%. Mae eiddo pâr wedi gostwng 2.6% ac roedd fflatiau 9.0% yn is. 

Mae’r gostyngiad yn nifer y gwerthiannau fesul math o eiddo wedi ei ogwyddo o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud yn ystod Ch2, gyda thai teras 61% yn is dros y tri mis o fis Ebrill i fis Mehefin 2020 o’u cymharu â’r un tri mis yn 2019, ac mae eiddo pâr 65% yn is, gwerthiant fflatiau 68% yn is ac yn olaf eiddo sengl 70% yn is.

I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau ym mhrisiau tai yng Nghymru ewch i: www.principality.co.uk/mortgages/house-price-index

Published: 24/08/2020

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £12 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.