Gwella eich cartref: awgrymiadau ar gyfer arbed arian
Diweddarwyd ddiwethaf: 21/12/2021
O dasgau bach fel gosod silff i brosiectau mawr fel estyniad, gall roi llawer o foddhad i’w gwneud nhw eich hun, yn hytrach na thalu am gymorth proffesiynol. Bydd gwneud hyn llawer yn rhatach hefyd.
Ond ar ôl ichi ddechrau gwario ar offer a deunyddiau, gall y costau gronni, hyd yn oed os byddwch yn gwneud tasg eich hun.
Dyma rai ffyrdd syml o arbed arian ar eich prosiect nesaf i wella eich cartref.
Cyn dechrau, cynlluniwch beth yn union yr ydych chi’n dymuno ei wneud a phenderfynu pa ddeunyddiau ac offer y bydd angen ichi eu prynu. Defnyddiwch y cynllun hwnnw i bennu cyllideb i’ch hun. Ac yna, yn hollbwysig, glynwch wrthi!
Os ydych chi’n benderfynol o arbed cymaint o arian â phosibl, gall torri corneli a rhuthro drwy’r gwaith fod yn demtasiwn.
Ond, drwy ddefnyddio deunyddiau rhad neu offer anaddas ar gyfer y dasg, rydych yn debygol o wneud mwy o waith i’ch hun yn y pen draw
Hefyd, mae gwneud cawlach ohoni drwy frysio drwy’r gwaith yn eich rhoi mewn mwy o berygl o wneud camgymeriadau a all fod yn gostus i’w cywiro - fel colli paent ar y carped, a gallant arwain at ddamweiniau hyd yn oed.
Does dim ots pa mor dda y byddwch yn cynllunio eich prosiect, bydd gennych ddeunyddiau dros ben yn aml.
Ond mae cymaint o bethau y gallwch eu gwneud â’r deunyddiau sy'n weddill. Edrychwch ar wefannau fel Pinterest i gael ysbrydoliaeth. Er enghraifft, gallech ddefnyddio’r darnau o arwyneb gweithio y gegin sydd dros ben i wneud byrddau torri, gallech ddefnyddio paent sydd dros ben i uwchraddio hen ddodrefn neu greu matiau diodydd allan o deils sydd dros ben. Mae’r dewisiadau’n ddiddiwedd.
Fel arall, gallech gynnig unrhyw ddeunyddiau sydd dros ben i gymdogion neu ffrindiau - dydych chi byth yn gwybod, efallai y byddan nhw’n ad-dalu’r gymwynas rhyw ddiwrnod.
Er bod Pinterest yn wych ar gyfer syniadau ac ysbrydoliaeth, mae YouTube yn wych am eich rhoi ar ben ffordd.
Mae yno fideos ar gyfer pob tasg o amgylch y cartref, a gallai wneud y gwahaniaeth rhwng gallu gwneud y gwaith eich hun neu gael cymorth proffesiynol.
Ac ydy, hyd yn oed os cewch ychydig o gymorth gan ddefnyddiwr YouTube, mae’n dal i gyfrif fel gwaith y byddwch wedi ei wneud eich hun.
Gall fod yn demtasiwn gwario llawer o arian ar offer newydd dymunol. Ac er bod rhai offer y mae eu hangen ar bob aelwyd, mae eraill efallai na fyddwch ond yn eu defnyddio unwaith ar gyfer un dasg benodol.
Os felly, gallai fod yn gost-effeithiol rhentu offer yn hytrach na’u prynu nhw. Mae’n bosibl bod eich siop DIY leol yn llogi offer, neu efallai fod cynlluniau cymunedol lleol eraill y gallwch droi atynt.
Os nad oes, efallai y byddai’n werth gofyn i’ch ffrindiau, eich teulu neu eich cymdogion a gewch chi fenthyg eu hoffer nhw. Mae’n debyg mai dim ond casglu llwch yn y sied neu’r garej y mae yr ysgol neu’r dociwr gwrychoedd, felly efallai na fydd ots o gwbl ganddyn nhw. Gallech gynnig helpu o amgylch eu cartref neu eu gardd yn gyfnewid am fenthyg offer.
Un o’r ffyrdd cyflymaf a hawsaf o drawsnewid unrhyw ran o’ch cartref yw rhoi cot o baent newydd arni. Gall ychydig o baent, mewn lliw cwbl newydd efallai, wneud gwahaniaeth mawr os yw ystafell yn edrych ychydig yn ddi-raen. Ond yn anffodus, gall paent fod yn eithaf drud.
Felly beth am geisio cael gafael ar ychydig o baent sydd dros ben? Gallech roi cynnig ar wefannau rhoddi cymunedol fel Freecycle neu Freegle, neu gynllun Community Repaint hyd yn oed, sy’n casglu paent dros ben y gellir ei ailddefnyddio i’w ddosbarthu i unigolion, teuluoedd, cymunedau ac elusennau sydd mewn angen.
Peidiwch â mynd yn syth i’ch siop DIY leol heb wneud eich ymchwil ar brisiau.
Gall gwefannau fel Google Shopping fod yn hynod o ddefnyddiol wrth chwilio am y fargen orau ar gynhyrchion a deunyddiau ar gyfer gwella eich cartref.
Gwiriwch a allwch gael rhywfaint o arian yn ôl wrth brynu. Mae hyn yn golygu defnyddio gwefan fel TopCashback neu Quidco i ennill canran yn ôl o’r hyn yr ydych yn ei wario.
Unwaith eto, gall meddylfryd cymunedol fod o gymorth. A allech arbed costau drwy rannu’r deunyddiau â rhywun arall, neu brynu cyfran lai gan rywun arall sydd eisoes wedi prynu pa bynnag ddeunydd sydd ei angen arnoch?
Yn ogystal â dod o hyd i ddefnydd i’ch deunydd gwerthfawr sydd dros ben, mae ffyrdd eraill o osgoi gwastraff ac arbed arian.
Cyn i chi ddechrau, amcangyfrifwch yn ofalus yr hyn sydd ei angen arnoch drwy gymryd mesuriadau cywir. Yna, byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio eich deunyddiau, boed hynny’n torri, yn hoelio neu’n rhywbeth arall.
Yn olaf, storiwch y deunyddiau’n iawn a glanhewch ar eich ôl. Sawl brwsh paent sy’n mynd i’r bin oherwydd nad ydynt wedi cael eu glanhau’n iawn ar ôl tasg?
Os nad ydych yn hyderus ynglŷn â thasg, yna gallech arbed arian yn yr hirdymor drwy ofyn i’r arbenigwyr ei gwneud yn hytrach na cheisio ei gwneud eich hun.
Ac mae rhai tasgau - gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â thrydan neu nwy - y dylech eu gadael i’r gweithwyr proffesiynol. Yn ogystal â risg o wneud camgymeriad, gallech roi eich hun mewn perygl.
Er hynny, mae llawer iawn y gallwch chi ei wneud. Felly, ewch amdani a mwynhau arbedion ariannol gwaith gwella’r cartref sydd wedi ei gynllunio’n dda!