
Newid eich cytundeb morgais ar-lein
Newid eich cytundeb morgais ar-lein
Os yw eich cytundeb morgais sefydlog neu ostyngol gyda ni o fewn 3 mis i ddod i ben, cewch edrych am gytundeb newydd nawr. Mae hyn yn rhwydd ac yn syml gyda’n proses newid cyfradd ar-lein a 10 munud yn unig y bydd yn ei gymryd.
Sut ydych chi’n newid eich cytundeb ar-lein?
Cam 1
Mewngofnodwch i’n llwyfan newid cyfradd ar-lein gyda rhif eich cyfrif morgais, eich dyddiad geni a chod didoli y cyfrif yr ydych yn ei ddefnyddio i dalu eich morgais.
Cam 2
Edrychwch ar y cytundebau morgais sydd ar gael i chi a chymharu’r taliadau misol.
Cam 3
Os ydych chi’n hapus i beidio â chael unrhyw gyngor, gallwch ddewis y cytundeb sydd orau gennych.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gael cyngor a pheidio â chael cyngor.
Cam 4
Cadarnhewch eich dewis a byddwn ni’n trefnu popeth arall! Mae mor rhwydd â hynny!
A ydych chi’n gymwys i newid ar-lein?
- Telir eich morgais trwy ddebyd uniongyrchol
- Nid ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu eich morgais
- Mae gennych chi fwy na £5,000 yn dal ar ôl i’w dalu ar eich morgais
- Mae mwy na dwy flynedd ar ôl ar eich morgais
Beth sydd ei angen arnaf i newid ar-lein?
- Rhif eich cyfrif morgais
Gallwch weld hwn ar eich datganiad morgais neu ar unrhyw lythyr oddi wrthym ni ynghylch eich morgais. - Eich dyddiad geni
- Cod didoli y cyfrif banc yr ydych yn ei ddefnyddio i dalu eich morgais
Gallwch weld hwn ar y cerdyn debyd neu unrhyw ddatganiad ar gyfer y cyfrif hwn.
Pam y Principality?
- 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
- Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
- Dros 160 mlynedd o brofiad
- Gofalu am werth dros £10 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
- Members can access a Member Rewards page featuring competitions, discounts and more.
GELLIR ADFEDDIANNU EICH CARTREF OS NA FYDDWCH YN TALU'R AD-DALIADAU AR EICH MORGAIS