Skip to content
Log in

Preifatrwydd a diogelwch

Gofalu am eich gwybodaeth bersonol


Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich data personol, ynghyd â’r hawliau sydd ar gael i chi.  


Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd ac i sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi yn ddiogel. Mae hyn yn golygu mai dim ond y wybodaeth sydd ei hangen arnom i ateb eich cwestiynau ac i roi cyfrifon cynilo, cynhyrchion morgeisi a gwasanaethau rydych eu hangen gennym y byddwn yn ei chasglu. Rydym hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth, gyda’ch caniatâd, i anfon gwybodaeth atoch y credwn y bydd o ddiddordeb i chi.

Polisi preifatrwydd

Mae ein polisi preifatrwydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich data personol, a gellir ei lawrlwytho yma.  

Ein polisi preifatrwydd


Gwyliwch grynodeb byr o’r ffordd rydym yn casglu ac yn rheoli eich gwybodaeth.

Eich gwybodaeth chi

Darllenwch grynodeb o’n polisi preifatrwydd a gwybodaeth am fanylion adnabod electronig yma. Rydym yn argymell eich bod yn darllen hwn ar y cyd â’n polisi preifatrwydd. Os hoffech gael copi papur, gallwch fynd i’ch cangen leol neu gysylltu â ni i ofyn am un.  

Tudalennau cysylltiedig

  • Eich hawliau chi a’n buddiannau ni

    Ewch ati i ddeall yr hawliau sydd ar gael i chi, neu’r buddiannau cyfreithlon rydym yn defnyddio eich data personol ar eu cyfer.

  • Eich diogelwch ar-lein

    Ewch ati i ddeall y camau rydym yn eu cymryd i’ch diogelu pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan a’r hyn y gallwch chi ei wneud i aros yn ddiogel ar-lein.

  • Cwcis

    Darllenwch ein hysbysiad cwcis i ddeall beth yw cwcis a sut rydym yn eu defnyddio ar ein gwefan.

  • Diweddaru caniatadau

    Dysgwch fwy am ganiatadau marchnata a sut i wneud newidiadau iddynt.

Sut i gysylltu â ni


Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y caiff eich data personol ei ddefnyddio, neu os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am eich preifatrwydd a’ch diogelwch, cysylltwch â ni: 


Ffôn: 0330 333 4000

E-bost: enquiries@principality.co.uk

Post: Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid, Cymdeithas Adeiladu Principality, Blwch SP 89, Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 1UA


Fel arall, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data gan ddefnyddio’r manylion canlynol:


E-bost: DPO@principality.co.uk

Post: Swyddog Diogelu Data Principality, Cymdeithas Adeiladu Principality, Tŷ Principality, Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd, CF10 3FA.