Hygyrchedd
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwasanaethau'n addas i bawb.
Hygyrchedd ar ein gwefan
Rydym wedi ymrwymo i greu profiad ar-lein croesawgar a chynhwysol. Credwn y dylai pawb gael profiad yr un mor gadarnhaol wrth geisio cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn hawdd ar ein gwefan.
Rydym yn dilyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1 i wneud ein gwefan yn gynhwysol i bawb, waeth beth fo'u gallu.
Yr hyn rydym yn ei wneud:
Defnyddio iaith glir a syml
Rydym yn ysgrifennu ein cynnwys fel ei bod yn hawdd ei ddeall, hyd yn oed pan ddarllenir yn uchel gan raglenni darllen sgrin.
Trefnu ein tudalennau
Mae penawdau a strwythur clir yn ei gwneud hi'n hawdd pori gyda rhaglen darllen sgrin, neu hebddi.
Sicrhau darllenadwyedd
Cyfuniadau lliw cryf a thestun ar y chwith i'w gwneud yn hawdd ei ddarllen.
Cynnig disgrifiadau amgen
Mae capsiynau, trawsgrifiadau a thestun amgen ar gael er mwyn helpu i esbonio fideos a delweddau.
Darparu swyddogaeth llywio bysellfwrdd
Gellir defnyddio popeth ar y wefan gyda bysellfwrdd yn unig, nid oes angen llygoden.
Cod hygyrch ysgrifenedig
Mae ein gwefan wedi'i hadeiladu'n glir er mwyn i dechnolegau cynorthwyol ei deall.