Datganiad Tryloywder Deddf Caethwasiaeth Fodern 2023
Cyhoeddir y datganiad hwn yn unol ag adran 54(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ("y Ddeddf") ac mae'n amlinellu'r camau y mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi'u cymryd yn ystod 2023 i sicrhau nad yw caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol a masnachu pobl yn digwydd yn ei chadwyni cyflenwi nac unrhyw ran arall o'i busnes neu is-gwmnïau.
Mae'r Gymdeithas yn darparu morgeisi preswyl a masnachol a chynilion, a'i nod yw cynnig gwerth da am arian, cynhyrchion syml a thryloyw, a ategir gan warant ddarbodus a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Yn ogystal â hyn, mae'r Gymdeithas wedi symleiddio ei model gweithredu trwy waredu nifer o is-gwmnïau a thrwy osod llyfr benthyca Cyllid Personol Nemo mewn trefniadau oferu.
Mae'r Gymdeithas wedi'i hawdurdodi gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus a'i rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a'r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus. Darperir gwasanaethau'r Gymdeithas trwy ganghennau'r Gymdeithas, canolfannau cyswllt aelodau a'i rhwydwaith cyfryngol. Mae natur reoleiddiedig y sector yn golygu ein bod yn gweithredu mewn diwydiant risg isel ar gyfer caethwasiaeth fodern. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus ac yn cymryd cyfrifoldebau penodedig o dan y Ddeddf o ddifrif.
Mae'r Gymdeithas yn cyflogi dros 1,000 o bobl ar draws y busnes ac mae pob un yn destun fetio a geirdaon cyn i'w cyflogaeth ddechrau, ac maent yn cael hyfforddiant rheolaidd i sicrhau eu bod yn deall ac yn cadw at werthoedd y Gymdeithas, sy'n cynnwys materion yn ymwneud â Throseddu Ariannol a Chwythu'r Chwiban. Mae'r holl gydweithwyr yn cael o leiaf y Cyflog Byw Cenedlaethol.
Mae rheoli systemau a rheolaeth y Gymdeithas yn effeithiol yn sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd tuag at reoli'r risg o Gaethwasiaeth Fodern.
Mae cadwyn gyflenwi'r Gymdeithas yn cynnwys tua 400 o gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau gan gynnwys prisio a thrawsgludo, ymgynghoriaeth a gwasanaethau proffesiynol, telathrebu, caledwedd a meddalwedd TG ac argraffu a phostio. Mae prosesau caffael y Gymdeithas yn cynnwys gwiriadau diwydrwydd dyladwy cyn ymrwymo i gontractau yn ogystal â monitro parhaus. Mae'n ofynnol i bob cyflenwr gydymffurfio â Chod Ymddygiad Cyflenwr y Gymdeithas, sy'n amlinellu disgwyliadau'r Gymdeithas gan gyflenwyr ar draws ystod o faterion, gan gynnwys Caethwasiaeth Fodern.
Mae'r Tîm Polisi Troseddau Ariannol yn ystyried rheoli'r risgiau o Gaethwasiaeth Fodern, ac mae'r Pwyllgor Risg Gweithredol yn gyfrifol am oruchwylio'r risgiau o ran Caethwasiaeth Fodern. Mae hefyd yn ofynnol i Reolwyr Perfformiad Cyflenwr dystio yn erbyn rheolaethau chwarterol o dan y Fframwaith Rheoli Risg. Mae hyn yn cynnwys rheoli cydberthnasau cyflenwyr cyffredinol yn unol â'r Canllawiau Rheoli Cyflenwyr, sy'n cynnwys gwybodaeth am y risg o Gaethwasiaeth Fodern.
Mae'r Gymdeithas yn parhau i fod yn ymrwymedig i gymryd camau rhesymol o ran cynnal busnes gyda gonestrwydd ac uniondeb a thrin pawb ag urddas a pharch. Mae'r Gymdeithas yn ymgysylltu'n rheolaidd â'i phartneriaid a'i chyflenwyr er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, er mwyn lliniaru'r risg o Gaethwasiaeth Fodern. Bydd yr holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol yn cael eu hadolygu yn 2024.
Cymeradwyodd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas y datganiad hwn ar 16 Chwefror 2024.
Sally Jones-Evans
Cadeirydd
16 Chwefror 2024