Skip to content
Log in

Polisi Cyfansoddiad y Bwrdd

Ein hymrwymiad i fod yn sefydliad lle mae pawb yn perthyn. 

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 


Mae ein Polisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn hanfodol ar gyfer ein llwyddiant hirdymor. Dyna pam mae’n berthnasol i'n Bwrdd, Pwyllgorau’r Bwrdd a’r busnes yn ehangach.

Mae'n sicrhau bod gennym ddiwylliant amrywiol, teg a chynhwysol lle rydym yn dathlu gwahaniaeth, a lle mae pob cydweithiwr ac aelod yn teimlo eu bod yn perthyn.

Ein nod strategol

Ein nod strategol yw 'Cynhwysiant yn ôl Dyluniad'. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gwneud penderfyniadau sy'n hygyrch yn fwriadol i bobl o bob gallu, cefndir ac amgylchiad. Mae'r gwerthoedd sy'n cefnogi'r ymrwymiad hwn yn berthnasol i aelodau'r Bwrdd, cydweithwyr a rhanddeiliaid.


Byddwn yn gwneud hyn drwy sicrhau amrywiaeth ar draws pob maes o'r busnes. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • rhywedd 
  • ethnigrwydd 
  • cyfeiriadedd rhywiol  
  • anabledd 
  • oed 
  • crefydd 
  • statws economaidd-gymdeithasol 
  • cefndir daearyddol 
  • cefndir proffesiynol ac addysgol 
  • deiliadaeth 
  • profiad 
  • sgiliau

    Amrywiaeth o fewn ein Bwrdd

    Ein nod yw creu safbwyntiau amrywiol o fewn ein Bwrdd drwy ystyried ystod o ffactorau, gan gynnwys:
  • meddyliau
  • sgiliau
  • annibyniaeth
  • profiadau bywyd
     
    Bydd yr amrywiaeth hon yn adlewyrchu'r aelodau a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac yn llywio penodiadau newydd i gadw'r Bwrdd yn berthnasol ac yn effeithiol.

    Mae ein hymrwymiad yn cynnwys targed o gael isafswm cynrychiolaeth o hunaniaeth rhywedd o 33% o'r Bwrdd, gydag o leiaf dau Gyfarwyddwr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

    Proses y Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebu

    Nod y Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebu fydd sicrhau bod gan aelodau'r Bwrdd a Phwyllgorau’r Bwrdd y galluoedd angenrheidiol. Mae'r rhain yn cynnwys ystod addas o sgiliau, profiad, gwybodaeth ac ymddygiad. Er mwyn bod yn llwyddiannus yn eu swyddogaethau i ofalu am flaenoriaethau strategol y sefydliad, bydd hyn yn ofynnol.

    Rhaid i'r holl Gyfarwyddwyr fodloni'r prawf addasrwydd a phriodoldeb bob amser. Mae hyn yn ofyniad gan yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Cyn ymgymryd â'u rôl, rhaid i gyfarwyddwyr gael cymeradwyaeth yr Awdurdod Rheoleiddio Darbodus a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, lle bo angen. 

Bydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebu yn adrodd yn flynyddol ar broses benodi'r Bwrdd. Mae hyn ar gael yn adran Llywodraethu Corfforaethol yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon. Bydd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o Bolisi Cyfansoddiad y Bwrdd. Bydd y Pwyllgor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymarebau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sy'n aelodau o'r Bwrdd. Bydd cyfansoddiad y Bwrdd hefyd yn rhan o'r Dangosfwrdd Amrywiaeth a Chynhwysiant.

 

Mae'r polisi hwn yn cael ei adolygu o leiaf bob tair blynedd. Bydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Enwebu, ynghyd â'r Rheolwr Cynhwysiant, yn asesu pa mor llwyddiannus fu hynny. Bydd hyn yn sicrhau bod targedau ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn parhau i fod yn briodol. Bydd y Pwyllgor yn argymell unrhyw ddiwygiadau Polisi angenrheidiol i'r Bwrdd eu cymeradwyo.