Cysylltiadau buddsoddwyr
Mae'r wybodaeth hon ar gyfer buddsoddwyr sefydliadol a dadansoddwyr sydd â diddordeb yng Nghymdeithas Adeiladu Principality.
Ein Trysorlys
Mae Trysorlys Cymdeithas Adeiladu Principality yn gyfrifol am gyllid cyfanwerthol, rheoli hylifedd ac adnoddau cyfalaf o fewn y marchnadoedd ariannol cyfanwerthol.
Edrychwch ar ein hadroddiadau ariannol diweddaraf neu ein cyflwyniad diweddaraf i fuddsoddwyr.
Rhaglenni Cyllid Cyfanwerthu
Codir cyllid cyfanwerthol o amrywiaeth o ffynonellau'r Farchnad Arian gyda’r cyfnodau aeddfedu yn amrywio o dros nos i 15 mlynedd.
Gwarannau a Gefnogir gan Forgeisi Preswyl
I gael gwybodaeth am Warannau a Gefnogir gan Forgeisi Preswyl gan gynnwys modelau llif arian Friars, ewch i Euroabs.
Nodiadau Tymor Canolig Ewro (EMTN)
Dysgwch am raglenni EMTN, gan gynnwys y prosbectws cyfredol, ein dalenni cyfnodau dyled isradd, dalenni cyfnodau uwch anwarantedig.
Arian cyfanwerthol tymor byr
Gellir cynnig cyllid tymor byr ar symiau dros £500,000 am gyfnodau sy'n amrywio o 1 mis hyd at 2 flynedd. Bydd pob cytundeb ar gyfer aeddfedrwydd sefydlog.
Rydym yn derbyn adneuon o'r canlynol:
Awdurdodau lleol a chymdeithasau tai
Elusennau cofrestredig
Cwmnïau yswiriant a sefydliadau ariannol
Rheolwyr cronfeydd
Sgorau credyd
|
Uwch Dewisol |
Sgôr Ddiofyn Rhoddwyr (IDR) | Tymor byr |
Uwch Annewisol |
Rhagolwg | Y Wybodaeth Ddiweddaraf | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Moody's | Baa1 | Baa2 | Amherthnasol |
P-2 | Baa3 | Sefydlog | Gorffennaf 2023 |
Fitch | A- | Amherthnasol |
BBB+ | F2 | BBB+ | Sefydlog | Gorffennaf 2023 |
Eisiau gwybod mwy am fuddsoddi gyda ni?
I gael rhagor o wybodaeth am sut i fuddsoddi gyda ni, cysylltwch â’r Adran Trysorlys.