Julie Ann Press Release

6 August 2024

Cymdeithas Adeiladu Principality yn Cyhoeddi Twf Cryf a Buddsoddiad Parhaus mewn Aelodau a Chymunedau

Mae Cymdeithas Adeiladu Principality wedi adrodd ar ei chanlyniadau ariannol ar gyfer hanner cyntaf 2024, gan ddangos twf cryf parhaus wedi’i ysgogi gan ddarparu gwerth da yn gyson i aelodau, darparu cymorth ychwanegol i gwsmeriaid a chymunedau, a chyflawni perfformiad ariannol cryf dan amgylchiadau macro-economaidd heriol.

Dywedodd Julie-Ann Haines, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Adeiladu Principality: “Mae chwe mis cyntaf 2024 wedi bod yn gyfnod heriol arall i’n haelodau, ein cydweithwyr a’n cymunedau wrth i’r argyfwng costau byw barhau i waethygu ac effeithio ar sefyllfa ariannol pobl.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi perfformiad cryf ar gyfer hanner cyntaf y flwyddyn wrth i ni barhau i gefnogi ein haelodau a’n cymunedau drwy’r cyfnod economaidd cythryblus hwn, gan adeiladu ar ddwy flynedd o gynnydd tuag at ein strategaeth yn erbyn cefndir o bwysau macro-economaidd; chwyddiant uwch ac ansicrwydd gwleidyddol.

Mae Principality yn sefydliad sy’n eiddo i’r aelodau a arweinir gan ddiben. Mae ein huchelgais i gael effaith y tu hwnt i’n graddfa ac i dyfu’r busnes yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn gwneud cynnydd gwirioneddol. Rydym wedi sicrhau twf cryf o ran morgeisi a chynilion yn ystod y chwe mis diwethaf, wrth ddod yn fwy effeithlon drwy wella profiadau ein cwsmeriaid ar-lein ac mewn canghennau.

Mae ein model busnes cynaliadwy sy’n eiddo i’r aelodau, ein hymagwedd gyfrifol at fenthyca a rheoli risg cyfraddau llog ceidwadol wedi ein galluogi i gydbwyso anghenion cynilwyr a benthycwyr gan hefyd gadw’r Gymdeithas yn ddiogel ar gyfer y tymor hir ar yr un pryd. Dyna pam rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gymunedau lleol yng Nghymru, nid yn unig drwy fod â’r nifer mwyaf o ganghennau ar y stryd fawr o blith unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu yng Nghymru, ond hefyd drwy hyrwyddo mynediad at arian parod, darparu cyfraddau llog da, gwirfoddoli, ymgysylltu â’r gymuned a nawdd.”

Cartrefi Gwell

Dywedodd Julie-Ann Haines: “Yn greiddiol i’n diben mae ceisio creu marchnad dai fwy hygyrch, lle mae mwy o gartrefi fforddiadwy ac mae’n haws i brynwyr tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo.

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, rydym wedi helpu mwy na 3,576 (Mehefin 2023: 3,304) o brynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf, ac roedd ein benthyciad morgais manwerthu net yn £0.6bn (Mehefin 2023: £0.5bn). Mae hyn yn mynd â ni ymhell ar ein ffordd i'n huchelgais i gefnogi dros 15,000 o gwsmeriaid i brynu eu cartref cyntaf erbyn 2030.”

Arweiniodd y gefnogaeth ragorol y mae Principality wedi’i rhoi i’w haelodau at gael ei phleidleisio fel y Gymdeithas Adeiladu Orau ar gyfer Gwasanaeth Cwsmeriaid gan What Mortgage am y seithfed flwyddyn yn olynol, yn ogystal â’r Benthyciwr Canolig Gorau yng ngwobrau Legal & General Mortgage Club a gwobr Canlyniad Busnes Gorau Experian.

Mae cam olaf datblygiad y Felin, sydd werth £100m, yn Nhrelái, Caerdydd ar fin cael ei gwblhau. Yn rhan o’r prosiect hwn, sy'n ymestyn dros saith mlynedd, mae dros 800 o gartrefi wedi’u hadeiladu, hanner ohonynt yn cynnig rhenti am bris gostyngol, canolradd neu gymdeithasol. Mae tîm Benthyca Masnachol Principality yn cefnogi 18 allan o 33 o gymdeithasau tai yng Nghymru, gan ddyfarnu £25m yn fwyaf diweddar i Hafod yng Nghaerdydd ar gyfer 300 o gartrefi fforddiadwy dros bum mlynedd, rhan o £80m mewn ymrwymiadau ar gyfer 2024, yn ogystal â benthyciad o £50m i Pobl yn 2023.

Dyfodol Cadarn – Cymdeithas o Gynilwyr

Parhaodd Julie-Ann: “Wrth i'r argyfwng costau byw barhau, mae mwy o bobl yn cael trafferthion ariannol. Y rhai ar yr incwm isaf sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf ac sydd â'r lleiaf o gynilion. Rydym am ddarparu cyfraddau cynilo cystadleuol i’n haelodau, fel y gallwn greu cymdeithas o gynilwyr cadarn. Mae perfformiad cynilion wedi bod yn gryf; rydym wedi cynyddu nifer y cynilwyr sydd gennym i dros 427,085 gyda thros 72,519 o gwsmeriaid yn cynilo'n rheolaidd, ac mae cynilion drwy ein canghennau wedi cynyddu 5%.

Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn darparu profiad gwell i gwsmeriaid beth bynnag fo’r sianel y mae cwsmeriaid yn ei dewis, ac rydym wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’n taith cynilion digidol a bydd ein gwefan newydd yn cael ei lansio yn yr wythnosau nesaf.

Fel cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, ein haelodau sy’n berchen arnom, nid cyfranddalwyr, felly rwy’n falch o ddweud ein bod wedi talu 4.00%, ar gyfartaledd, i gynilwyr o gymharu â chyfartaledd y farchnad o 3.32%* am y pedwar mis cyntaf o 2024, gan arwain at swm sy’n cyfateb i £21m ychwanegol (0.68%) mewn llog a dalwyd i’n haelodau sy’n cynilo.”

*Ffynhonnell: Cyfrif Cyfredol a Chronfa Ddata Cynilion (CSDB) CACI, Cyfradd Llog Cyfartaledd Pwysol ar gyfer Ionawr 2024 – Ebrill 2024.

Cymdeithas decach – mwy o effaith gymdeithasol ar gymunedau

Parhaodd Julie-Ann: “Mae gan Principality yr uchelgais i neilltuo hyd at 3% o’i helw blynyddol at ddiben cymdeithasol, ac fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw, rwy’n falch o ddweud ein bod yn bwriadu cyhoeddi pedwerydd iteriad ein Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol yn ail hanner y flwyddyn, a fydd yn cefnogi grwpiau cymunedol lleol yn ein bro, gyda chyllid o fwy na £0.5m. Mae'r cronfeydd hyn yn creu effaith mewn cymunedau gan sicrhau bod y rhai mwyaf difreintiedig yn cael mwy o gyfleoedd.

Gwnaethom hefyd gefnogi addysg ariannol i 24,567 o blant ysgol a phobl ifanc a rhoi £121,248 i’n partneriaid elusennol, hosbisau plant Tŷ Hafan a Tŷ Gobaith drwy godi arian ymhlith cydweithwyr ac aelodau.

Mae ymrwymiad y Gymdeithas i amrywiaeth a chynhwysiant yn parhau i fod yn amlwg. Rwyf wrth fy modd bod Principality, o ganlyniad, wedi ennill Gwobr Cwmni Gwasanaethau Ariannol y Flwyddyn – y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Amrywiaeth.

Mae ein rhwydweithiau rhagorol o gydweithwyr wedi cymryd camau breision er mwyn helpu’r Gymdeithas ar y daith hon. Un enghraifft yw’r ffordd y gwnaeth y rhwydwaith Pride groesawu busnesau bach lleol, cydweithwyr a’u ffrindiau a’u teulu yn Nhŷ Principality cyn 25ain gorymdaith flynyddol PRIDE Cymru, yr oedd y Gymdeithas yn brif noddwr iddi am yr ail flwyddyn yn olynol.”

Perfformiad Ariannol Cryf

Mae twf llyfr morgeisi Principality o £0.6bn wedi dod â balans morgais y Gymdeithas i £9.9bn (Rhagfyr 2023: £9.3bn). Mae balans y cynilion hefyd wedi cynyddu £0.8bn i £9.9bn (Rhagfyr 2023: £9.1bn). Daw hyn â chyfanswm asedau Principality i £13.5bn, sef £1bn yn uwch na Rhagfyr 2023 (£12.5bn).

Yn dilyn gostyngiad disgwyliedig yn yr Elw Llog Net i 1.21% (Rhagfyr 2023: 1.52%), bu gostyngiad cyfatebol yn yr Elw Sylfaenol i £20.1m (Mehefin 2023: £39.1m), tra bod elw statudol cyn treth yn £22.4m (Mehefin 2023: £41.0m).

Ychwanegodd Julie-Ann: “Mae buddsoddiad sylweddol ar y gweill i sicrhau bod y Gymdeithas yn addas ar gyfer y dyfodol, gyda’n safleoedd cyfalaf a hylifedd cryf yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer twf a buddsoddiad yn y dyfodol, i gyd er budd yr aelodau wrth i ni geisio ei gwneud yn haws iddynt wneud busnes gyda ni.

Mae darparu cartref diogel ar gyfer cynilion ein Haelodau yn hanfodol i lwyddiant parhaus ein busnes, yn union fel y bu ers 164 o flynyddoedd.”

Rhagolygon

Wrth gloi, dywedodd Julie-Ann: “Mae byw yn y cartrefi a ddymunwn a chynilo ar gyfer y dyfodol yr ydym yn ei haeddu yn anoddach nag erioed o'r blaen. Fodd bynnag, wrth i bwysau chwyddiant ddechrau lleddfu ac wrth i ni ragweld amgylchedd gwleidyddol mwy sefydlog, mae'r rhagolygon yn dod yn fwy optimistaidd. Hyderaf fod Principality mewn sefyllfa dda i drosoli ein cryfderau a chyflawni ein huchelgais i gael effaith y tu hwnt i’n graddfa.

Mae ein gweledigaeth hirdymor yn gadarn o hyd: helpu i adeiladu cymdeithas o gynilwyr lle mae gan bawb le i’w alw’n gartref.

Mae ein perfformiad ariannol cryf yn golygu y gallwn barhau i fuddsoddi i ddiogelu perthnasedd hirdymor y Gymdeithas i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid, ein cydweithwyr a’n cymunedau yn well.”

Prif Uchafbwyntiau Perfformiad:

  • Cyfanswm yr asedau: £13.5bn (Rhagfyr 2023: £12.5bn)
  • Balansau morgeisi manwerthu: £9.9bn (Rhagfyr 2023: £9.3bn)
  • Balansau cynilion: £9.9bn (Rhagfyr 2023 : £9.1bn)
  • Elw statudol cyn treth: £22.4m (Mehefin 2023: £41.0m)
  • Elw gwaelodol cyn treth: £20.1m (Mehefin 2023: £39.1m)
  • Cymhareb Ecwiti Cyffredin Haen 1: 19.65% (Rhagfyr 2023 21.77%)
  • Elw llog net: 1.21% (Rhagfyr 2023: 1.52%)
  • Cymhareb Costau Rheoli Statudol: 0.91% (Rhag-23 0.99%)

I ddarllen ein Hadroddiad Canlyniadau Interim yn llawn, cliciwch yma.

Published: 06/08/2024

  • 6ed cymdeithas adeiladu fwyaf y DU
  • Cymdeithas adeiladu gydfuddiannol, sy’n eiddo i’n 500,000 o aelodau ac yn cael ei rhedeg er eu lles
  • Dros 160 mlynedd o brofiad
  • Gofalu am werth dros £13 biliwn o asedau ein cwsmeriaid
  • Gall Aelodau fynd at dudalen Gworau Aelodau sy’n cynnwys cystadlaethau, gostyngiadau a mwy.

Cysylltwch â ni
X logo Instagram logo Facebook logo LinkedIn logo YouTube logo

#LleMaeCartrefYnBwysig